Mark Drakeford: Araith y Frenhines yn 'ffugbeth'

  • Cyhoeddwyd
Y Frenhines a Tywysog CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines a Thywysog Cymru yn ystod agoriad swyddogol y Senedd newydd yn San Steffan

Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw cynllun Boris Johnson am ddeddfau newydd ar Brexit, trosedd, iechyd a'r amgylchedd yn "ffugbeth".

Yn ôl Mark Drakeford roedd Araith y Frenhines, sy'n amlinellu'r cynigion, yn "stỳnt wleidyddol".

Fe amlinellodd yr araith 26 o bolisïau y mae cefnogwyr gweinyddiaeth Mr Johnson yn eu disgrifio'n rhai "uchelgeisiol".

Ond gyda diffyg mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin, mae'n debygol na fydd llawer o'r cynigion yn dod yn ddeddf - sy'n eu gwneud yn gyfystyr i bob pwrpas â "maniffesto etholiadol", ym marn y gwrthbleidiau.

'Dymuniadau ffantasïol'

Cafodd yr araith ei thraddodi wrth i'r trafodaethau Brexit rhwng gyda'r UE barhau, gyda Mr Johnson yn mynnu y bydd y DU yn gadael yr undeb ar 31 Hydref boed yna gytundeb ai peidio.

Ond dywedodd Mr Drakeford nad oes gan Lywodraeth y DU "unrhyw fwriad i gyflawni Araith y Frenhines o gwbl".

Ychwanegodd ei fod yn araith wleidyddol "ar ran yr hyn sydd ar ôl o'r Blaid Geidwadol".

"Dyma yw problem y prif weinidog. Pob tro mae'n ildio tir i'r Undeb Ewropeaidd, mae'n colli cefnogaeth yn Nhŷ'r Cyffredin.

"Pob tro mae'n ceisio adfer ei fwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin mae'n colli cefnogaeth gan yr Undeb Ewropeaidd.

"Does dim ffordd ymlaen mae o wedi gallu ei ddangos hyd yn hyn, a heb hynny mae Araith y Frenhines yn syml yn ffugbeth."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r seremoni rwysgfawr ailagor y Senedd yn dyddio'n ôl i'r 1850au

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi gwrthod y cynigion gan eu disgrifio fel "rhestr o ddymuniadau ffantasïol".

Dywedodd Liz Saville Roberts wrth BBC Cymru: "Cyfle yn unig yw hwn i Boris Johnson gyflwyno'r hyn mae eisiau gweld yn ei faniffesto Etholiad Cyffredinol.

"Ond does ganddo mo'r amser na'r niferoedd i wireddu dim o hyn oll, felly mewn sawl ffordd rhestr o ddymuniadau ffantasïol ydy o."

Ychwanegodd: "Yr hyn ddylen ni fod yn ei drafod a dylai fod ar dudalen flaen Araith y Frenhines yw refferendwm ategol i ganfod ffordd o ddod â'r holl sefyllfa [Brexit] yma i ben."

'Cyfle i uno'r wlad'

Wrth groesawu cynlluniau Mr Johnson, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, bod yr araith yn dangos bod y Ceidwadwyr eisiau cyflawni Brexit ac yn "amlygu agenda cyffrous" ar ôl Brexit.

"Mae'r wlad wedi'i pharlysu ers amser mor hir. Dyma ein cyfle i uno'r wlad," meddai.

"Mae gyda ni blatfform cyffrous ond mae'n rhaid cyflawni Brexit er mwyn cael y cyfle i'w gwneud nhw."