Risgiau iechyd Brexit bellach 'yn debygol, nid 'posib'

  • Cyhoeddwyd
Warws Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae GIG Cymru'n defnyddio warws yng Nghasnewydd i storio adnoddau oherwydd y pryder am adael yr UE

Yn ôl adroddiad newydd ar effeithiau posib Brexit ar iechyd a lles pobl yng Nghymru, mae'r risgiau o effaith niweidiol wedi cynyddu ers dechrau'r flwyddyn gyda'r posibilrwydd cynyddol o Brexit digytundeb.

Mae dadansoddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru o dystiolaeth ers adroddiad blaenorol ym mis Ionawr yn awgrymu bod y "tebygolrwydd o effaith negyddol fawr wedi cynyddu o fod yn 'bosibl' i 'debygol'" o ran safonau bwyd a rheolau'n ymwneud ag ansawdd aer a dŵr ymdrochi.

Ond mae asesiad diweddaraf y corff iechyd hefyd yn nodi bod y cyfleoedd am effeithiau cadarnhaol "wedi parhau'n gymharol sefydlog".

Mae'n argymell camau gweithredu yn y meysydd ychwanegol sy'n cael eu nodi, gan gynnwys "ymchwil pellach i ddeall yn llawnach effaith Brexit wrth iddo ddigwydd" a sut y gellir lliniaru unrhyw effeithiau ar gyfer y dyfodol".

Risgiau ychwanegol

Mae'r risgiau ychwanegol y dylid eu hystyried wedi'r adolygiad yn ymwneud â meysydd yn cynnwys:

  • Effaith economaidd oherwydd newidiadau mewn mewnfudo;

  • Mynd i'r afael â chyffuriau anghyfreithlon;

  • Iechyd meddwl;

  • Gwasanaethau cymunedol a'r trydydd sector;

  • Pobl ag amrywiaeth o anableddau;

  • Ffermwyr a chymunedau gwledig;

  • Pobl sy'n cael eu cyflogi mewn sectorau sy'n agored i newidiadau mewn telerau masnach gyda'r UE, fel rhai sectorau gweithgynhyrchu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder y bydd rhai pobl ddim yn gallu cael digon o feddyginiaeth ar ôl Brexit

Mae'r adolygiad yn nodi rhai effeithiau cadarnhaol posib yn achos pobl ar incwm isel, o ganlyniad i ostyngiadau posib mewn prisiau tai.

Hefyd bydd yna gyfleoedd i fusnesau gynyddu allforion yn sgil gostyngiad yng ngwerth y bunt.

Mae'r grwpiau poblogaeth allai gael eu heffeithio'n benodol yn cynnwys pobl oedrannus â chyflyrau cronig neu anableddau sydd angen meddyginiaeth a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac a allai fod ar incwm isel, yn ôl Liz Green o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd: "Bydd poblogaethau o'r fath yn fwy agored i effeithiau unrhyw effeithiau negyddol Brexit fel pwysau chwyddiant ar fwyd a thanwydd, cyflenwi meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol a phroblemau staffio a wynebir gan y gwasanaethau y maent yn cael mynediad iddynt."