Arestio pump ar amheuaeth o ymosod ar ddyn yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Heol PortlandFfynhonnell y llun, Google

Mae pedair menyw ac un dyn wedi eu harestio ar amheuaeth o ymosod ar ddyn yn Abertawe yn ystod oriau mân fore Sul.

Dywed Heddlu'r De fod menyw 22 oed o Orseinon, menyw 27 oed o Bontardawe, menyw 30 oed o Lansamlet, menyw 44 oed o Ystalyfera, a dyn 21 oed o Orseinon yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Daeth aelodau o'r cyhoedd o hyd i ddyn 21 oed gydag anafiadau difrifol i'w ben ar Ffordd Portland yng nghanol y ddinas tua 01:55.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Treforys mewn ambiwlans cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywed yr heddlu ei fod bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.