Benthyciad i drwsio diffygion fflatiau 'ddim yn ddigon'

  • Cyhoeddwyd
The Celestia complex
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 450 o fflatiau yn rhan o gynllun Celestia ym Mae Caerdydd

Mae trigolion blociau fflatiau yng Nghaerdydd sydd wedi methu profion diogelwch tân yn dweud nad yw cynnig gan y datblygwr Redrow i ariannu gwelliannau yn mynd yn ddigon pell.

Dywed trigolion fflatiau Celestia fod yr ansicrwydd ynghylch pwy fyddai'n talu am waith gwerth miliynau o bunnoedd wedi achosi pryder mawr.

Fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru orchymyn fod rhaid gwneud gwaith atgyweirio o fewn 12 mis wedi i brofion ddangos diffygion, gan gynnwys rhwystrau tân rhwng fflatiau "gwael iawn neu absennol".

Mae Redrow nawr wedi dweud y byddan nhw'n darparu benthyciad di-log ar gyfer y gwaith er mwyn cydymffurfio â gorchmynion y gwasanaeth tân.

Ar hyn o bryd mae cwmni Celestia Management Company Ltd, sy'n rhedeg y fflatiau, yn trefnu i'r gwaith trwsio gael ei wneud.

Ond maen nhw'n dweud bod "ansicrwydd" ynghylch amodau'r benthyciad sydd wedi'i gynnig gan Redrow, ac na fyddai hynny'n talu am "ddiffygion sylweddol" eraill y tu hwnt i'r hyn oedd wedi'i orchymyn gan y gwasanaeth tân.

Mae'r Celestia Action Group, sef tenantiaid a phrydleswyr y fflatiau, am i Redrow ymrwymo i "gynllun gwelliannau cynhwysfawr".

Mae dros 450 o fflatiau yn rhan o gynllun Celestia - saith bloc o fflatiau a godwyd rhwng 2005 a 2007.

Trafferthion niferus

Dangosodd profion yn gynharach eleni fod:

  • Mesurau i atal tân rhag lledu'n fewnol yn yr adeilad yn "wael iawn neu ddim yn bodoli";

  • Bylchau rhwystro tân allanol "ar goll neu'n absennol";

  • Defnydd o gladin pren ac insiwleiddio ddim yn cwrdd â'r safonau gofynnol.

Fe wnaeth y Gwasanaeth Tân ystyried gorchymyn gwagio un o'r blociau. Mae cynllun diogelwch tân wedi ei osod ar waith yno bellach, sy'n cynnwys patrôl 24 awr o'r safle.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Valerie Livingston (chwith) a Denise Currell (dde) yn byw yn y bloc o fflatiau

'Pryderus ac ofnus'

Mae Valerie Livingston, sy'n feichiog, wedi byw yn Celestia ers 2011.

Dywedodd: "Dylai pawb deimlo'n ddiogel yn eu cartref, ond ar hyn o bryd dydw i ddim yn gallu dweud fy mod i bob amser.

"Fe wnaethon ni benderfynu dechrau teulu, a chynllunio i symud i dŷ teuluol... dyna pryd y daethon ni i wybod am broblemau ar ôl mynd at werthwr tai."

Dywedodd Ms Livingston bod y gwerthwr wedi gwrthod ei heiddo am fod yna bryder am "amryw broblemau" o fewn y datblygiad.

Ychwanegodd: "Fy neges i John Tutte, prif weithredwr Redrow, yw hyn - 'Sut fyddech chi'n teimlo pe byddwn i'n ferch i chi? A fyddech chi'n gweithredu i gywiro hyn?'"

Mae Denise Currell yn un o drigolion Celestia ers 2012. Dywedodd fod trigolion yn teimlo "dan straen, yn bryderus ac ofnus".

"Y polisi yma oedd i aros lle oedden ni, a bod y fflatiau yn ddiogel mewn tân nes i rywun ddod i'n hachub.

"Yn sydyn newidiodd hynny, a bod rhaid i ni adael oherwydd y gallai'r tân ledu o fflat i fflat yn llawer cyflymach na'r disgwyl."

Ychwanegodd bod rhai trigolion wedi cael gwybod nad oes modd cael morgais ar eu fflatiau.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi "rhoi sawl gorchymyn i gywiro diffygion mynediad a gwahanu mewnol" yn ystod misoedd Awst a Hydref.

Roedd yn cydnabod ymrwymiad Celestia i "ddelio gyda'r ddarpariaeth diogelwch tân".

'Cyfraniad amhenodol'

Dywedodd llefarydd ar ran Redrow: "Er nad Redrow wnaeth gynllunio nac adeiladu Celestia, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r asiant rheoli ac wedi cyflwyno cynnig i ddarparu cyllid ar gyfer y gwaith i gydymffurfio â'r gorchymyn, a hefyd i osod system larwm tân newydd fydd yn gwneud yr adeiladau yn fwy diogel.

"Rydym yn gwerthfawrogi bod trigolion wedi bod yn bryderus iawn am ddiogelwch yr adeilad pe byddai tân. Mae'r cynnig gennym yn ateb y pryderon yma ac yn debyg o roi'r tawelwch meddwl y mae'r trigolion am ei gael."

Ond wrth ymateb i ddatganiad Redrow, dywedodd llefarydd ar ran y Celestia Action Group: "Nid yw geiriau Redrow yn mynd yn ddigon pell i wella'r sefyllfa yn Celestia.

"Y cyfan y maen nhw'n addo yw cyfraniad amhenodol tuag at ddau neu fwy o'r trafferthion tân lleia' pwysig sydd wedi bod yn yr adeiladau ers iddyn nhw gael eu gwerthu gan Redrow 12 mlynedd yn ôl.

"Mae angen i adeiladwr tai mwyaf Cymru ymrwymo i gynllun gwelliannau cynhwysfawr heb fod yna unrhyw gost ychwanegol i denantiaid na phrydleswyr.

"Dim ond wedyn y bydd y pryder ofnadwy yma'n cael ei godi oddi ar ysgwyddau ein cymuned."

Gallwch weld mwy am y stori yma ar raglen Wales Live ar BBC 1 Cymru am 22:30.