RT Davies i wynebu pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth

Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew RT Davies wedi ennyn beirniadaeth o sawl cyfeiriad dros y misoedd diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Bydd aelodau o'r Senedd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio ddydd Mawrth nesaf ynghylch a oes ganddyn nhw hyder yn eu harweinydd Andrew RT Davies, mae BBC Cymru wedi cael gwybod.

Deellir i Mr Davies alw'r bleidlais ar ôl cyfarfod o aelodau o'r Senedd ei blaid ddydd Iau lle codwyd pryderon am ei arweinyddiaeth.

Mae Mr Davies wedi wynebu beirniadaeth gyhoeddus a phreifat gan rai o’i ASau dros y chwe mis diwethaf, yn rhannol oherwydd rhai o’i negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol.

Cafodd ei feirniadu gan grŵp Mwslemaidd mewn ffrae am argaeledd cig di-halal mewn ysgolion, a thynnodd gerydd gan aelodau ei blaid ei hun am rannu neges mewn ffair haf yn cwestiynu dyfodol y Senedd.

Mae wedi bod yn hysbys ers rhai misoedd fod rhai o wleidyddion Ceidwadol y Senedd yn anhapus ag arweinyddiaeth Mr Davies.

Fodd bynnag, mae ffynonellau Torïaidd wedi awgrymu mai lleiafrif yw'r grŵp hwn.

Yn y cyfamser, mae BBC Cymru yn deall bod dau aelod Torïaidd o'r Senedd wedi tynnu nôl o ymrwymiadau darlledu ddydd Iau.

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew RT Davies wedi bod yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ers 2021, yn ei ail gyfnod yn y rôl

Mae Mr Davies wedi bod yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd am y mwyafrif o’r 13 mlynedd ddiwethaf.

Cafodd ei ethol gyntaf yn 2011.

Ar ôl iddo roi’r gorau iddi yn 2018, dychwelodd yn ddiwrthwynebiad yn 2021 ar ôl i Paul Davies ildio'r awenau.

Mae Mr Davies wedi bod dan bwysau ers yr haf oherwydd y pryderon a godwyd yn fewnol ynghylch ei gyfrif cyfryngau cymdeithasol ar X.

Mae grŵp Mwslemaidd wedi ei feirniadu ar ôl iddo ysgrifennu am honiadau nad oedd cig di-halal ar gael mewn ysgol ym Mro Morgannwg.

Roedd yr ysgol wedi dweud bod hynny'n anghywir.

Fe wnaeth yr Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru hefyd achosi ffrae dros ddatganoli pan ddywedodd ar X ei fod wedi gofyn i bobl mewn sioe amaethyddol a oedden nhw’n meddwl y dylai’r Senedd gael ei diddymu ai peidio.

Mae pryderon hefyd wedi bod yn y blaid am y modd y mae wedi delio ag ymddygiad yr AS Ceidwadol Laura Anne Jones.

Ymddiheurodd Ms Jones ar ôl iddi ddod i'r amlwg ei bod wedi defnyddio gair hiliol mewn sgwrs WhatsApp.

Mae hi hefyd yn destun ymchwiliad heddlu dros ei threuliau - honiadau y mae'n gwadu.

Nid yw Ms Jones wedi’i gwahardd fel Aelod o'r Senedd Ceidwadol, ond mae wedi’i thynnu o’r fainc flaen fel llefarydd.