Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-1 Chesterfield
- Cyhoeddwyd
Fe gollodd Wrecsam o un gôl i ddim yn erbyn tîm arall sy'n dioddef tua gwaelod y Gynghrair Genedlaethol nos Fawrth.
Gôl i'w rwyd ei hun gan Michael Chambers oedd y gwahaniaeth ar noson ddigalon arall i'r Dreigiau - y tro yma yn erbyn Chesterfield.
Dechreuodd ail gyfnod Dean Keates fel rheolwr Wrecsam gyda gêm gyfartal gartref yn erbyn Harrogate wythnos yn ôl.
Cafodd Keates ei benodi'n rheolwr yr wythnos diwethaf, gan gymryd yr awenau gan Brian Flynn, fu wrth y llyw dros dro ers i'r clwb ddiswyddo Bryan Hughes.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn disgyn i safleoedd y cwymp wedi 17 gêm.
Mae Chesterfield yn codi i'r 18fed safle - wedi iddyn nhw ddechrau'r gêm bwynt tu ôl i Wrecsam.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2019