Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-1 Harrogate
- Cyhoeddwyd
Fe ddechreuodd ail gyfnod Dean Keates fel rheolwr Wrecsam gyda gêm gyfartal yn erbyn Harrogate ar y Cae Ras nos Fawrth.
Cafodd y tîm cartref y dechrau delfrydol, gyda Bobby Grant yn rhwydo o groesiad Jason Oswell wedi dim ond pum munud o chwarae.
Llwyddodd y Dreigiau i amddiffyn eu mantais nes y 10 munud olaf, pan rwydodd Ryan Fallowfield wedi i Wrecsam fethu â chlirio'r bêl yn dilyn croesiad.
Fe gafodd Keates ei benodi'n rheolwr ddydd Llun, gan gymryd yr awenau gan Brian Flynn, fu wrth y llyw dros dro ers i'r clwb ddiswyddo Bryan Hughes.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn aros yn yr 20fed safle yn y Gynghrair Genedlaethol, y tu allan i safleoedd y cwymp ar gyfanswm goliau yn unig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2019