Colli 125 o swyddi mewn ffatri darnau ceir ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd
hi lex
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gweithwyr wybod am y newidiadau ddydd Llun

Mae cwmni ym Mhort Talbot wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cau eu ffatri ymhen dwy flynedd, gyda 125 o swyddi'n cael eu colli.

Fe fydd Hi-Lex, sydd yn cynhyrchu darnau ar gyfer drysau a ffenestri ceir yn ogystal â cheblau, yn symud unrhyw fusnes sy'n weddill yn 2021 i Hwngari.

Dywedodd y prif weithredwr Adam Glaznieks fod gweithwyr wedi cael gwybod ddydd Llun, ond nad oedden nhw'n disgwyl y byddai swyddi'n cael eu colli am o leiaf 12 mis arall.

Mewn datganiad, fe ddywedodd y cwmni fod y penderfyniad wedi ei wneud yn dilyn penderfyniad gan y rhiant-gwmni yn Japan, Hi-Lex Corporation, i ailstrwythuro eu busnes yn Ewrop.

"Mae Hi-Lex Corporation yn difaru'r angen am y penderfyniad i ailstrwythuro'r gwaith, ond mae hyn yn llwyr seiliedig ar y gostyngiad sylweddol yn y rhagolygon gwerthiant o 2021 ymlaen," meddai'r cwmni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae safle Hi-Lex ym Mharc Ynni Baglan yn cyflogi 125 o bobl

Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Rob Jones, y byddai "effaith cau'r ffatri'n sicr o gael ei theimlo'n arw yn yr ardal hon".

"Fe wnawn ni ein gorau i gefnogi gweithwyr Hi-Lex ble bynnag y gallwn i gael gwaith newydd drwy gyfrwng ein Tîm Busnes, ac fe fyddwn ni hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i liniaru effeithiau'r colledion swyddi hyn ar y gweithwyr eu hunain a'r ardal leol," meddai.

Dywedodd yr AC Ceidwadol Suzy Davies fod colli'r swyddi yn "ergyd arall" i bobl yr ardal, ond y byddai'r amserlen yn rhoi cyfle i rai o'r gweithwyr gynllunio ar gyfer y dyfodol ac i wleidyddion geisio denu swyddi newydd.

Ychwanegodd Bethan Sayed o Blaid Cymru fod "cwestiynau difrifol" i'w gofyn ynghylch beth oedd Llywodraeth Cymru wedi ceisio'i wneud i achub swyddi yn y diwydiant ceir, gan awgrymu fod Brexit hefyd yn ffactor ym mhenderfyniad Hi-Lex i adael.