Ymchwiliad llofruddiaeth Richard Andrews: Arestio ail ddyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi arestio ail berson yn rhan o'r ymchwiliad i lofruddiaeth dyn yng Nghastell-nedd.
Fis diwethaf fe wnaeth yr heddlu arestio dyn 48 oed ar ôl i gorff Richard Andrews gael ei ganfod yn 2018.
Cyhoeddodd Heddlu De Cymru ddydd Iau bod dyn 40 oed o Lerpwl bellach wedi ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth fel rhan o'r ymchwiliad.
Cafodd Mr Andrews, oedd yn cael ei adnabod gan y llysenw 'Monkey', ei weld yn fyw am y tro diwethaf ym Medi 2017.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2019