Cymru am gael gwared â 'bwgan Cwpan y Byd 2011'
- Cyhoeddwyd
Mae'n ystrydeb yn y byd chwaraeon - does dim gwahaniaeth pa mor dda mae unrhyw dîm neu unigolyn wedi chwarae, y gêm bwysicaf yw'r gêm nesa'.
Ond weithiau does dim help edrych 'nôl, ac wrth edrych 'mlaen i'r gêm yn erbyn Ffrainc yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd ddydd Sul mae'n naturiol bod y gêm gynderfynol rhwng y ddwy wlad yn 2011 yn fyw iawn yn y cof.
Mae'n siŵr bod un person yn enwedig wedi cael llond bol ar ateb cwestiynau am yr achlysur.
Cerdyn coch i gapten Cymru, Sam Warburton, ar ôl dim ond 18 munud newidiodd gwrs y gêm a thynged Cymru yn y gystadleuaeth, wrth iddyn nhw golli 9-8.
Ar y pryd roedd penderfyniad y dyfarnwr Alain Rolland yn un dadleuol iawn a nifer, gan gynnwys fi, a'm cyd-sylwebydd ar Radio Cymru, Ken Owens yn grediniol y byddai cerdyn melyn wedi bod yn fwy addas.
Yn sicr doedd dim malais yn nhacl Warburton ar Vincent Clerc - momentwm yr asgellwr o Ffrainc ac agosatrwydd y blaenasgellwr o Gymru olygodd bod coesau Clerc wedi codi i'r awyr ac yntau wedi disgyn wysg ei gefn.
Mewn gwaed oer efallai bod 'na fwy o gydymdeimlad gyda phenderfyniad Monsieur Rolland!
Taclo uchel yn erbyn y pen sydd wedi llethu'r gwpan eleni a does ond gobeithio na fydd Jaco Peyper, y dyfarnwr ddydd Sul, yn gorfod gwneud penderfyniad all sbwylio'r gêm hon.
Gêm olaf Gatland?
Mae wyth o garfan 2011 ynghlwm â'r garfan bresennol - chwech yn chwaraewyr a Huw Bennett a Stephen Jones yn rhan o'r tîm hyfforddi.
Mae'n gyfle iddyn nhw i, nid gymaint i ddial ond cael gwared â'r bwgan hwnnw sy'n dal i lechu yng nghefn eu meddyliau.
Mae'r un yn wir am y tîm hyfforddi oedd hefyd yno wyth mlynedd nôl, ac mae pawb yn sylweddoli mai'r tro nesa' y bydd Cymru'n colli bydd gêm ola' Warren Gatland wrth y llyw.
Ar ôl ennill tair Camp Lawn a chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd unwaith a'r chwarteri ddwywaith beth yw gêm bwysica' Warren?
Ar y funud, yr un nesa' ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2019