Annog Jeremy Corbyn i bwyso am refferendwm ar Brexit

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Corbyn

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi annog Jeremy Corbyn i "fachu â'i ddwy law" ar y cyfle i gael refferendwm Brexit arall neu etholiad cyffredinol.

Roedd Mr Drakeford yn siarad ar ôl i ASau bleidleisio i oedi cyn rhoi eu cymeradwyaeth i'r cytundeb Brexit newydd sy'n cael ei gynnig gan y Prif Weinidog, Boris Johnson.

Cafodd gwelliant Oliver Letwin, oedd yn datgan nad yw Tŷ'r Cyffredin yn mynd i gymeradwyo'r cytundeb cyn pasio deddfwriaeth sy'n gysylltiedig, ei basio o 322 i 306.

Mae'n golygu ei fod yn ofynnol i Mr Johnson ofyn am estyniad dan gyfraith Benn, a nos Sadwrn daeth cadarnhad gan rif 10 Downing Street ei fod wedi ysgrifennu at Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd i ofyn am un.

Ond mae Mr Johnson yn mynnu y bydd yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth sydd wedi'i chynllunio i basio'i gytundeb newydd a'i gwneud yn gyfraith er mwyn i'r Deyrnas Unedig adael yr UE erbyn diwedd y mis.

Dywedodd Mark Drakeford wrth BBC Cymru, "Rwy'n credu efallai y bydd y cyfle i bleidleisio ar refferendwm yn dod yn gyntaf nawr ..... os nad yw hynny'n bosibl yna dylem gael etholiad cyffredinol. "

"Mae'r ddau beth hynny yn dal yn bosib, mewn gwirionedd, felly mater o amser yw hi o ran pa gyfle sy'n dod ein ffordd gyntaf.

"Mae'r bleidlais ddoe, rwy'n meddwl, yn golygu y gallai refferendwm gael ei alw cyn unrhyw etholiad cyffredinol ac os bydd yn gwneud hynny dylem gydio ynddo gyda'r ddwy law."

Pan ofynnwyd iddo pa gyngor y byddai'n ei roi i Jeremy Corbyn, atebodd, "Pa bynnag siawns a ddaw eich ffordd gyntaf, cydiwch ynddi gyda'ch dwy law."

Cynnig dros gynnal refferendwm

Dywedodd Kier Starmer, Ysgrifennydd Brexit yng nghabinet y wrthblaid wrth y BBC y byddai Llafur yn cefnogi gwelliant yn galw am refferendwm yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos nesaf.

Ond dywedodd y byddai yn well i welliant o'r fath ddod o'r meinciau cefn er mwyn denu cefnogaeth ehangach yn Nhŷ'r Cyffredin.

Yn y cyfamser mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, wedi galw ar ASau i gefnogi bargen y Prif Weinidog.

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, dywedodd fod angen sicrwydd ar Gymru a bod yn rhaid parchu canlyniad 2016.

"Rwy'n gobeithio bod pobl yn ystyried yr hyn ddigwyddodd yn y Tŷ ddoe pan oedd cytundeb ar y bwrdd a allai yn amlwg fod wedi sicrhau ein hymadawiad ar Hydref 31ain, ac rwy'n gobeithio y bydd yr aelodau'n cael cyfle o'r newydd yr wythnos nesaf i bleidleisio dros y fargen honno," meddai.