Darlledu oedfa i geisio denu mwy o addolwyr

  • Cyhoeddwyd
Hywel Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Parchedig Hywel Meredydd Davies mae angen "defnyddio'r pethau sydd ar gael" i apelio at addolwyr yn y Gymru gyfoes

Capel ar Ynys Môn yw'r cyntaf yng ngogledd Cymru i ddarlledu oedfa ar Facebook Live mewn ymgais i ddenu mwy o gynulleidfaoedd.

Ddydd Sul roedd oedfa Capel Cildwrn yn Llangefni ar gael ar y we fyd eang i wylio.

Yn ôl y Parchedig Hywel Meredydd Davies mae angen "defnyddio'r pethau sydd ar gael" i apelio at addolwyr yn y Gymru gyfoes.

Mae'r Gweinidog eisoes wedi darlledu angladdau ar y we sy'n "gysur i rheiny sydd methu bod yno".

Ychwanegodd y Parch Davies: "Mae hwn yn golygu gall pobl cael eu huwd yn y bore neu eu te bach yn y prynhawn a chael oedfa."

'Symud gyda'r oes'

Ers degawdau mae'r nifer o gapeli ar draws Cymru wedi cwympo ac yn gynharach eleni roedd rhybudd nad oedd capeli Cymru wedi gwneud digon i "symud gyda'r oes".

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd yr oedfa ei darlledu ar Facebook Live

Ond yn groes i hyn, mae'r Parch Davies yn credu gall darlledu gwasanaethau Cristnogol ar Facebook ddenu cynulleidfaoedd newydd.

"Dwi eisiau clywed ymateb pobl a chynnal deialog," meddai.

"Mae capeli yn dawel a does 'na ddim trafodaeth gyda'r byd o'n cwmpas. Mae'r cyfrwng yma yn galluogi pobl i gynnal sgwrs."

'Am ddim a syml'

Yn ôl y Parch Davies mae angen i gapeli ar lawr gwlad ddilyn esiampl eu "cyn-deidiau" a bod yn greadigol.

"Mae rhaid symud ymlaen. Roedd ein cyn-deidiau ni yn defnyddio'r wasg.

"Roedd ein cyn-deidiau yn flaengar a chreadigol a dwi'm yn credu fod ni'n defnyddio digon o'r pethau sydd gennym ni.

"Mae o am ddim ac yn syml. Dio'm yn anodd i gapel bach yn y wlad i roi lein ffôn mewn a chael iPad ac wedyn 'da chi fewn i'r byd mawr."

Wrth ymateb ar Facebook dywedodd un gwyliwr ei bod hi wedi "mwynhau yr oedfa'n fawr".

Bydd holl wasanaethau'r capel rŵan ar gael i wylio yn fyw ar dudalen Facebook Capel Cildwrn.