Yn y niwl wrth baratoi at Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae ceisio rhagweld pendraw trafodaethau Brexit yn ddigon anodd i unrhywun - ond mae'n gur pen go iawn i fusnesau sy'n gorfod gwneud penderfyniadau pwysig am y dyfodol. Dau gwmni o Gymru sy'n egluro sut maen nhw'n paratoi at newid economaidd enfawr all effeithio eu bywoliaeth - heb wybod y ffeithiau.
Fel cwmni sy'n cynhyrchu offer dringo, mae elw DMM wedi bod yn ddibynnol ar risg ac ansicrwydd erioed.
Ond tra'u bod nhw'n gallu cynnig rhaffau, carabiners a harneisiau i leihau'r ffactorau hynny i'w cwsmeriaid, does yr un cynnyrch tebyg ar gael i helpu'r busnes gyda Brexit.
Maen nhw'n disgwyl am eglurder ers amser hir ond mae'r ansicrwydd sy'n parhau yn gwneud pethau'n anodd yn ôl y rheolwr-gyfarwyddwr.
"Fel cwmni, 'da ni'n paratoi ac yn trafod be' i wneud ers dros ddwy flynedd, ond 'da ni dal ddim yn gwybod be' sy'n digwydd," meddai Gethin Parry wrth Cymru Fyw. "Mae 'na ddeg ohona ni mewn cyfarfod Brexit bob yn ail wythnos erbyn hyn."
Roedd DMM, a sefydlwyd yng ngogledd Cymru yn 1981, yn un o ddau gwmni gafodd sylw ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru yn ddiweddar am ansicrwydd Brexit.
Effaith Brexit i'w deimlo yn barod
Wedi ei leoli yn Llanberis, mae dros 200 o bobl yn gweithio i'r cwmni yn dylunio a chynhyrchu offer i ddringwyr ac offer diogelwch i bobl sy'n gweithio ar uchder.
Gyda 62% o'u nwyddau yn cael ei allforio - 45% i Ewrop - maen nhw eisoes wedi cael eu heffeithio gan Brexit a chwsmeriaid yn prynu mwy na'r arfer rhag ofn bod problemau ar y gorwel.
"'Da ni wedi buddsoddi i gynyddu capasiti gan fod mwy o fusnes wedi dod o Ewrop," meddai Gethin Parry.
"Ydi hynny oherwydd Brexit, neu am eu bod nhw'n hoffi ein cynnyrch neu oherwydd bod prisiau yn is gan fod y bunt yn wan - tyda ni ddim yn gwybod. 'Da ni wedi holi ein prynwyr ac maen nhw i gyd yn dweud 'da ni eisiau aros efo chi ar ôl Brexit, ond tyda ni ddim yn gwybod beth fydd y tariff'."
Alwminiwm ydi eu prif ddeunydd crai, a'r prisiau wedi dringo 30% mewn tair blynedd - ac o bosib am godi eto:
"Mae hynny'n boen mawr arna i.
"Ryda ni'n delio efo pobl o Brydain i gael y deunydd crai ond 'da ni'n gwybod os fydda ni'n mynd yn uniongyrchol at y cynhyrchwyr i'r Eidal neu Wlad Pwyl fydda ni'n arbed 8%. Ond os yda ni am gael tariff y World Trade Organisation, sydd rhwng 5-8% ar alwminiwm, mae'r arbedion yn cael eu canslo allan."
Sefydlu cwmni ar gyfandir Ewrop
Mae'r cwmni wedi gwneud paratoadau i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 1 Dachwedd, boed y Deyrnas Unedig yn gadael neu beidio.
O ran natur y cynnyrch, mae system ardystio i gadarnhau safonau diogelwch yn holl bwysig - sy'n broblem os nad ydi tystysgrifau'r cwmni ym Mhrydain yn cael eu hadnabod wedi 1 Tachwedd.
Felly mae'r cwmni wedi adleoli eu tystysgrif yn y Ffindir a chreu cwmni yn yr Iseldiroedd fydd yn eu galluogi i werthu oddi fewn i'r Undeb Ewropeaidd ar ôl 1 Tachwedd.
"Mae sefydlu'r cwmni wedi costio £8,000 ond dwi'n gwybod faint o oriau o waith mae wedi cymryd i'w sefydlu gan y cyfarwyddwr gwerthiant a chyfarwyddwr ariannol," meddai Gethin Parry.
Sefydlu fferm yn China
Paratoadau tebyg sydd gan Berry Ltd gafodd ei sefydlu gan Gymro yn 1991.
Mae'r cwmni, sy'n cyflogi tri ym Mhrydain a 150 mewn fferm yn China, wedi cofrestru yn Iwerddon fel bod ganddyn nhw safle yn Ewrop ar ôl Brexit.
Dywedodd Marged Berry, rheolwr busnes y cwmni sy'n creu cynnyrch ffrwythau, wrth raglen Post Cyntaf: "Mae'n anodd iawn gwneud paratoadau pam dyda chi ddim yn gwybod beth sydd am ddigwydd.
"Dwi'n meddwl mai dyna ydi'r peth mwyaf anodd am y peth achos mae o mor ansicr 'da ni ddim cweit yn gwybod sut i ddelio efo fo.
"'Da ni ddim wedi cael digon o wybodaeth. Mae'n anodd a rhywbeth mae lot ohonom ni o fewn y diwydiant yn teimlo does yna ddim canllawiau clir. Dwi'n meddwl bod lot o gwestiynau ynglŷn â beth sy'n mynd i ddigwydd yn y porthladdoedd gyda customs, gwaith papur a phethau fel yna.
"Hefyd y peth mwyaf pwysig mae'n siŵr ydi be' ydi'r deal sy'n mynd i fod ar y bwrdd os oes yna un o gwbl a sut mae hynny am effeithio'r masnachu, y trethi sy'n cael eu gosod ar y cynnyrch ac yn y blaen."
Fe allai Brexit effeithio ar wahanol rannau o'r busnes mewn ffyrdd gwahanol, yn ôl Marged Berry:
"Achos bod geno ni'r busnes o China, yn eironig falle fydd effaith positif ar y busnes yna oherwydd fydd pobl ella yn edrych am gynnyrch o wledydd eraill y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
"I'r busnes lle 'da ni'n dod â chynnyrch o fewn yr Undeb Ewropeaidd i'r Deyrnas Unedig, 'da ni'n poeni am hwnna oherwydd os yda ni'n dod allan efo dim deal fydd rhaid i ni syrthio nôl ar reolau'r World Trade Organisation ac maen nhw'n gosod trethi sylweddol ar y cynnyrch 'da ni'n dod i mewn."
Hefyd o ddiddordeb: