Cwpan FA Lloegr: Wrecsam 1-0 Chesterfield
- Cyhoeddwyd
JJ Hooper sgoriodd unig gôl y gêm i sicrhau fod Wrecsam yn cyrraedd rownd gyntaf cwpan FA Lloegr ar ôl curo Chesterfield.
Roedd y ddau dîm wedi cael gêm gyfartal 1-1 ddydd Sadwrn, gan olygu bod angen gêm arall i'w gwahanu.
Bydd y Dreigiau nawr yn croesawu Rochdale o'r Adran Gyntaf i'r Cae Ras ar 8-11 Tachwedd.
Daeth cyfle Wrecsam diolch i James Jennings a dorrodd yn rhydd a chroesi'r bêl yn ôl i Hooper i sgorio.
Scott Boden gafodd cyfle gorau Chesterfield ond arbedodd Rob Lainton yn dda o'i beniad.