Lori â 39 o gyrff 'heb gyrraedd y DU trwy Gaergybi'
- Cyhoeddwyd
Mae ditectifs yn dweud eu bod bellach yn credu bod trelar lori oedd â 39 o gyrff ynddo wedi cyrraedd Essex o Wlad Belg, yn hytrach nag o Iwerddon trwy borthladd Caergybi.
Yn gynharach ddydd Mercher, fe gyhoeddodd Heddlu Essex eu bod yn credu bod y lori wedi teithio trwy Ynys Môn ddydd Sadwrn diwethaf.
Yn dilyn ymholiadau pellach maen nhw nawr yn dweud fod trelar y lori wedi teithio o Zeebrugge i borthladd Purfleet cyn docio yn ardal Thurrock ychydig wedi 00:30 bore Mercher.
Y gred yw bod cerbyd y lori ei hun wedi dechrau ei daith yng Ngogledd Iwerddon, a bod y lori a'r trelar wedi gadael Thurrock ychydig wedi 01:05.
Mae gyrrwr y lori, dyn 25 oed o Ogledd Iwerddon, yn dal i gael ei holi yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Cafwyd hyd i'r cyrff yng nghefn y lori ym Mharc Diwydiannol Waterglade, yn Grays yn gynnar ddydd Mercher.
Dywedodd yr heddlu bod y lori'n dod o Fwlgaria, a bod un o'r meirw yn ei arddegau a'r gweddill yn oedolion.
Cafodd y llu eu galw i'r stad ddiwydiannol gan y gwasanaeth ambiwlans ychydig cyn 01:40 ddydd Mercher, ar ôl y darganfyddiad.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Andrew Mariner o Heddlu Essex: "Mae hwn yn ddigwyddiad trasig lle mae nifer fawr o bobl wedi colli eu bywydau.
"Rydym yn y broses o adnabod y cyrff ond rwy'n rhagweld y gallai hynny fod yn broses hir."
Yn eu datganiad gwreiddiol, dywedodd y llu eu bod yn credu bod y lori wedi dod i'r wlad yng Nghaergybi ddydd Sadwrn 19 Hydref.
Mae'r Farwnes Butler-Sloss, un o gadeiryddion grŵp trawsbleidiol y Senedd sy'n edrych ar fasnachu pobl a chaethwasiaeth fodern bod yr achos yn amlygu angen i wella diogelwch mewn porthladdoedd.
"Mae gan y swyddogion rheoli ffiniau broblem wirioneddol," meddai. "Does dim gwybodaeth o flaen llaw pwy sy'n teithio mewn cerbydau ar y fferis... boed yn Dover... Caergybi neu unrhyw borthladd arall."
Dywedodd y cynghorydd sir a thref lleol, Trefor Lloyd Hughes wrth Cymru Fyw bod pryderon ers sbel ynghylch y posibilrwydd y byddai achos o'r fath yn codi gyda chysylltiad â phorthladd Caergybi.
"Dwi wedi codi'r mater amser yn ôl, oes ginnon ni ddigon o bobl diogelwch yn gweithio yn y porthladd," meddai.
Mae'n galw am gyfarfod brys i drafod y sefyllfa.
Digwyddiad 'brawychus'
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ei fod wedi teimlo "arswyd llwyr" pan glywodd am y marwolaethau.
Dywedodd AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth: "Mor drist o glywed hyn - byddaf yn ceisio'i godi yn y Cynulliad prynhawn 'ma."
Dywedodd AS Ynys Môn, Albert Owen ar Twitter ei fod "mewn sioc ac wedi brawychu gan y digwyddiad trasig yn Grays", gan gydymdeimlo â theuluoedd a ffrindiau'r bobl fu farw.
Fe gododd y mater gyda'r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel yn Nhŷ'r Cyffredin, ac mae'n dweud y bydd "yn gweithio gyda'r Swyddfa Gartref ac asiantaethau eraill i gael yr holl ffeithiau".
Doedd Ms Patel methu cadarnhau iddo faint o lorïau gafodd eu harchwilio ym mhorthladd Caergybi ddydd Sadwrn diwethaf tra bo'r heddlu'n cynnal ymchwiliad.
Mae AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth wedi galw ar weinidogion y Swyddfa Gartref i ymweld â phorthladd Caergybi i glywed pryderon lleol, ac i "weld dros eu hunain pam bod angen buddsoddiad gwirioneddol a'r flaenoriaeth mae'n ei haeddu" fel ail borthladd prysuraf y DU.
Dywedodd llefarydd ar ran Stena Line y bydd y cwmni'n rhoi "pa bynnag gymorth sydd angen i gefnogi'r ymchwiliad".
Yn ôl y corff sy'n cynrychioli'r diwydiant cludiant, yr FTA (Freight Transport Association), byddai'n "anarferol" i lori o Fwlgaria gyrraedd y DU trwy Gaergybi.
Dywedodd Seamus Leheny, rheolwr polisi'r FTA yng Ngogledd Iwerddon: "Mae pobl wedi bod yn dweud bod diogelwch a gwiriadau wedi eu cynyddu mewn llefydd fel Dover a Calais, felly mi allai rhai ei gweld hi'n haws i deithio o Cherbourg neu Roscoff i Rosslare ac yna i Ddulyn.
"Mae'n daith hir sy'n ychwanegu diwrnod i'r siwrne."
Roedd yna gynlluniau i archwilio porthladdoedd gorllewinol y DU, gan gynnwys Caergybi, am ymfudwyr yn cuddio mewn lorïau, fel y digwyddodd yn 2016 yn y de a'r dwyrain, yn ôl llefarydd ar ran y Prif Arolygydd Ffiniau a Mewnfudo Annibynnol, David Bolt.
Ond cafodd y cynlluniau hynny eu "gohirio tan fydd hi'n gliriach beth fyddai unrhyw drefniadau wedi Brexit".
Bydd Caergybi ychwaith ddim yn rhan o archwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd i achosion o ddod i'r DU yn guddiedig, gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad i'r Ysgrifennydd Cartref.