Bachgen yn euog o geisio llofruddio cyd-ddisgybl

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Eirias, Bae ColwynFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Eirias ar fore Llun, 11 Chwefror eleni

Mae bachgen 16 oed wedi'i gael yn euog o geisio llofruddio cyd-ddisgybl ar ôl ei drywanu yn Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn yn gynharach eleni.

Roedd y bachgen yn gwadu ceisio lladd y bachgen arall yn Ysgol Uwchradd Eirias ar 11 Chwefror, gan ddweud mai anafu, nid lladd, ei gyd-ddisgybl oedd ei fwriad.

Roedd y diffynnydd - nad oes modd ei enwi oherwydd ei oed - eisoes wedi cyfaddef cyhuddiad llai difrifol o anafu bwriadol.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod y diffynnydd wedi targedu'r bachgen arall ar hap, a hynny am ei fod yn rhwystredig bod potel o wisgi wedi'i chymryd oddi arno.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Rhagfyr, a bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa nes hynny.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands bod y bachgen yn "peri perygl gwirioneddol", a bydd asesiad seiciatryddol yn cael ei lunio er mwyn asesu ei berygl i'r cyhoedd.

'Dim edifeirwch'

Cafodd y bachgen arall ei drywanu yn ei ysgwydd gyda chyllell, ond roedd yr erlyniad yn mynnu bod y bachgen yn anelu am ei wddf.

Er eu bod yn yr un flwyddyn ysgol, doedd y disgybl ddim yn adnabod y diffynnydd, a bu'n rhaid iddo edrych ar lun ysgol er mwyn ei adnabod.

CyllellFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y diffynnydd ddefnyddio'r gyllell yma i drywanu ei gyd-ddisgybl

Roedd y rheithgor wedi clywed hefyd fod y bachgen, oedd yn 15 oed ar y pryd, wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi ystyried lladd rhywun ers peth amser.

Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi dweud mewn cyfweliad ei fod yn "hoff o'r syniad o ladd rhywun" a'i fod "eisiau'r profiad o sut fyddai'n teimlo i ladd rhywun".

Fe ddywedodd y bachgen hefyd ei fod wedi trywanu buwch ac oen yn y gorffennol.

Daeth y seiciatrydd wnaeth archwilio'r bachgen i'r casgliad nad oedd ganddo "unrhyw empathi neu edifeirwch am yr hyn a wnaeth".