Gove: Dim asesiad o effaith Brexit ar Gaergybi

  • Cyhoeddwyd
Caergybi

Dyw Llywodraeth y DU heb gynnal asesiad o effaith economaidd y gallai'r cytundeb Brexit newydd ei gael ar borthladd Caergybi, yn ôl aelod o gabinet Boris Johnson.

Dywedodd Michael Gove, sydd â chyfrifoldeb am gynllunio ar gyfer Brexit, ei bod yn anodd i "gael asesiad o'r fath oherwydd bod yna gymaint o wahanol ffactorau all newid".

Roedd Mr Gove yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Allanol y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Iau.

Dywedodd AC Plaid Cymru ei bod yn "syfrdanol" nad oedd asesiadau effaith wedi eu cynnal.

Dywedodd Mr Gove wrth y pwyllgor: "Mae'n bwysig wrth gwrs i ni gyd edrych ar y gwahanol ffactorau.

"Ond ni all yr un asesiad effaith roi'r gwirionedd pur oherwydd o ddiffiniad, mae'n amhosib rhagdybio gydag unrhyw sicrwydd, sut y bydd rhywbeth mor gymhleth ag economi'r DU yn tyfu a datblygu yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Michael Gove ymweld â phorthladd Chaergybi ym mis Awst

Ychwanegodd ei fod wedi ymweld â Chaergybi a'i fod wedi edrych ar yr effaith o adael yr UE gyda chytundeb, a'i gymharu â'r effaith o adael heb gytundeb.

"Roedd y llywodraeth wedi gwneud popeth posib i liniaru unrhyw effeithiau negyddol," meddai.

'Syfrdanol'

Dywedodd AC Plaid Cymru Delyth Jewell ei bod yn "syfrdanol" nad oedd asesiadau effaith wedi eu cynnal ar Gaergybi.

Gofynnodd i Mr Gove sut all ei lywodraeth ofyn i'r Cynulliad gefnogi'r cytundeb "pan nad ydym yn gwybod pa effaith mae'n mynd i gael ar y porthladd".

Dywedodd Mr Gove pe bai yna gytundeb "yna byddai Caergybi mewn sefyllfa well a chryfach nag erioed".

"Pe na bai cytundeb byddai hynny yn heriol i Gaergybi, a dyna pam rydym yn credu mai'r cytundeb yma sydd orau i economi'r DU ac i bawb sy'n gweithio yng Nghaergybi a'r ardal gyfagos."