Cyhuddo dyn o geisio llofruddio wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Heol y CeiFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dyn gafodd ei daro yn parhau mewn cyflwr difrifol wedi'r digwyddiad ar Heol y Cei ar 8 Hydref

Mae dyn 24 oed o Gasnewydd wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl i gerddwr gael ei daro gan gar yn y ddinas.

Cafodd y dyn 22 oed, sy'n parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol, ei daro ar Heol y Cei am tua 14:00 ddydd Mawrth, 8 Hydref.

Mae dau berson arall - dyn a dynes 38 oed - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, ond mae'r ddau wedi'u rhyddhau dan ymchwiliad.

Dywedodd Heddlu Gwent nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw berson arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Ychwanegodd y llu eu bod yn awyddus i siarad â gyrrwr fan Ford Transit gwyn wnaeth siarad â wardeniaid traffig ger y digwyddiad.

Dywedodd yr heddlu nad yw gyrrwr y fan wedi gwneud dim o'i le, ond y gall fod â gwybodaeth allweddol fyddai'n cynorthwyo'r ymchwiliad.