Emiliano Sala: Abertawe'n condemnio llun 'gwarthus'

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emiliano Sala cyn chwarae'r un gêm dros Gaerdydd

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi condemnio llun "gwarthus" sydd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n gwneud hwyl am ben y diweddar Emiliano Sala.

Dywedodd y clwb eu bod nhw'n cynorthwyo Heddlu De Cymru, sy'n ymchwilio.

Daw hyn cyn i Abertawe wynebu Caerdydd am y tro cyntaf ers pum mlynedd ddydd Sul.

Bu farw Sala, 28, pan aeth awyren oedd wedi'i pheilota gan David Ibbotson - sy'n parhau ar goll - i mewn i Fôr Udd ar 21 Ionawr.

Roedd yr Archentwr wedi ymuno â Chaerdydd o glwb Nantes yn Ffrainc, ond bu farw'r ymosodwr cyn chwarae dros yr Adar Gleision.

Mewn datganiad ar eu gwefan, dolen allanol, dywedodd Abertawe eu bod yn "ymwybodol o'r llun gwarthus sy'n cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol... mewn cysylltiad â marwolaeth drist ymosodwr Caerdydd, Emiliano Sala.

"Mae'r llun yn gywilyddus ac nid yw'n cynrychioli'r clwb pêl-droed hwn na'n cefnogwyr mewn unrhyw ffordd."

Mae Heddlu'r De wedi rhybuddio pobl i beidio â rhannu'r llun gan y byddai gwneud hynny'n drosedd.