Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Abertawe lwyddodd i gipio'r fuddugoliaeth yn narbi de Cymru mewn gêm oedd ymhell o fod yn glasur.
Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers i Abertawe a Chaerdydd gwrdd ac roedd gôl Ben Wilmot wedi 24 munud yn ddigon i dîm Steve Cooper.
Fe ddechreuodd y gêm gyda'r Elyrch yn hawlio y rhan fwyaf o'r meddiant a hynny ar ôl iddyn nhw wneud chwe newid i'r tî gollodd yn erbyn Brentford ganol yr wythnos.
Daeth y gôl yn dilyn methiant Caerdydd i glirio cic gornel yn effeithiol.
Gôl i Abertawe
Yn dilyn y gornel fe gafodd Abertawe gyfle arall i groesi'r bêl i'r cwrt cosbi. O groesiad Wayne Routledge, roedd Ben Wilmot ar y postyn pellaf i benio'r bêl i gefn y rhwyd.
Roedd Nathaniel Mendez-Laing yn achosi problemau i amddiffyn Abertawe, ond roedd yn brwydro yn y linell ymosodol ar ei ben ei hun heb fawr o gymorth gan chwaraewyr Caerdydd.
Roedd yn rhaid i golwr yr Adar Gleision Neil Etheridge gasglu ambell i groesiad peryglus arall fewn i'r cwrt cosbi cyn i'r hanner cyntaf ddod i ben gydag Abetawe'n haeddianol ar y blaen.
Fe ddechreuodd yr ail hanner gydag Abertawe unwaith eto ar y droed flaen. Fe aeth Andre Ayew yn agos at ddyblu'r fantais o groesiad Bidwell cyn i'r dyfarnwr sylwi ei fod wedi llawio'r bêl.
Mewn ail hanner digon di-fflach roedd y dorf yn amlwg yn mwynhau'r achlysur gydag emynau di-ri i'w clywed o derasau stadiwm Liberty.
Daeth cyfle gorau Caerdydd i sgorio wedi 67 munud, croesiad uchel Ralls fewn i'r cwrt cosbi ac fe ddylai Gavin Whyte fod wedi sgorio gyda foli - ond aeth ei ergyd yn syth i ddwylo Woodman yn y gôl.
Newid tactegau
Gyda'r amser yn prysur redeg allan fe wnaeth Neil Warnock anfon ei amddiffynwr tal, Aden Flint fyny i'r llinell flaen.
Ar ôl sawl croesiad fewn i'r cwrt cosbi fe lwyddodd Abertawe i amddiffyn yn dda.
Daeth y gêm i ben gydag Abertawe'n llwyr haeddu'r fuddugoliaeth yng nghêm ddarbi gyntaf Steve Cooper fel rheolwr yr Elyrch.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Abertawe nawr yn bedwerydd yn y Bencampwriaeth ar wahaniaeth goliau ac mae Caerdydd yn parhau yn 14 yn y tabl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2019