Enwau anarferol ar blant

  • Cyhoeddwyd
babisFfynhonnell y llun, levkr

Yn 2018, Ffion oedd yr enw Cymreig mwyaf poblogaidd ar ferched yng Nghymru ac Arthur oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar fechgyn.

Ond beth am yr enwau Cymreig lleiaf poblogaidd?

Mae Cymru Fyw wedi bod yn edrych ar restrau'r Swyddfa Ystadegau (ONS) i ganfod yr enwau Cymraeg lleiaf cyffredin yn 2018.

Dyma'r rhestrau (gyda nifer y plant a gafodd yr enw mewn cromfachau):

Enwau lleiaf cyffredin ar ferched yn 2018 (yn nhrefn yr wyddor):

  • Aderyn (4)

  • Annest (3)

  • Arian (3)

  • Arianwyn (3)

  • Blodwen (3)

  • Eiry (4)

  • Eirlys (3)

  • Elain (4)

  • Eluned (3)

Disgrifiad o’r llun,

Tybed sut mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan AC, yn teimlo fod cyn lleied o Eluneds wedi eu geni yn 2018?

  • Glesni (3)

  • Gwenna (4)

  • Gwenni (3)

  • Gwenyth (4)

  • Liliwen (3)

  • Liwsi (3)

  • Madlen (4)

  • Magi (4)

  • Mair (3)

  • Mali-Rose (4)

  • Marged (3)

  • Meg (3)

  • Mia-Ann (3)

  • Mia-Mai (3)

  • Moli (4)

  • Nan (3)

  • Nia-Rose (4)

  • Saran (3)

  • Seren-Haf (3)

  • Seren-Rose (3)

  • Sioned (3)

Ffynhonnell y llun, Saran Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Yr actores Saran Morgan - dim ond tair Saran fach ddaeth i'r byd yn 2018

Mae'r enw Sioned wedi lleihau mewn poblogrwydd yn yr ugain mlynedd ddiwethaf - yn 1998, cafodd 44 Sioned ei geni, tra fod Glesni, Marged ac Elain wedi aros yn eithaf cyson.

Doedd yr un Annest, Eiry na Mair ar restr babis newydd 2017.*

Beth am y bechgyn felly?

Enwau lleiaf cyffredin ar fechgyn yn 2018 (yn nhrefn yr wyddor):

  • Aeddan (3)

  • Alffi (4)

  • Arth (3)

  • Arwel (4)

  • Berwyn (3)

  • Blaidd (3)

  • Bleddyn (4)

  • Brynmor (4)

Ffynhonnell y llun, Maurice Hibberd
Disgrifiad o’r llun,

Dydi'r enw Brynmor ddim yn boblogaidd iawn y dyddiau yma

  • Cadan (4)

  • Cellan (3)

  • Dei (3)

  • Deian (3)

  • Deiniol (3)

  • Deion (3)

  • Deri (4)

  • Dyfan (4)

  • Elwyn (3)

  • Ffredi (3)

  • Geraint (4)

  • Gruffudd (4)

  • Iago (3)

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r enw Deian wedi aros yn eithaf cyson o ran poblogrwydd, gyda 5 wedi eu geni yn 1998 a 3 yn 2018

  • Iorwerth (3)

  • Llion (3)

  • Luc (3)

  • Macs (3)

  • Mostyn (4)

  • Nedw (4)

  • Tedi (4)

  • Teifi (3)

  • Teifion (3)

  • Wynn (4)

Luc yw'r enw sydd wedi colli poblogrwydd fwyaf yn yr ugain mlynedd ddiwethaf, gyda 57 Luc yn 1998, o'i gymharu â 3 yn 2018. Roedd yna lai o Geraints yn 2018 hefyd, o'i gymharu â 41 yn 1998.

Doedd yr un Cadan, Ffredi na Teifion ar restr babis newydd 2017.*

Mwy o fanylion...

Mae'r rhestrau uchod yn cynnwys enwau cyntaf plant gafodd eu geni yng Nghymru a Lloegr yn 2018.

*Er mwyn diogelu cyfrinachedd unigolion, dydy Swyddfa'r Ystadegau ddim yn rhyddhau gwybodaeth pan fo dim ond un neu ddau o blant wedi derbyn enw penodol.

Hefyd o ddiddordeb: