Arweinwyr Cyngor Sir Merthyr Tudful i dderbyn hyfforddiant

  • Cyhoeddwyd
Kevin O'Neill
Disgrifiad o’r llun,

Fe ofynnodd Kevin O'Neill, arweinydd y cyngor, am gymorth yn gynharach eleni

Bydd arweinydd a phrif weithredwr dros dro Cyngor Sir Merthyr Tudful yn derbyn hyfforddiant arbennig mewn ymgais i helpu'r awdurdod.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fwy o gymorth i'r cyngor, sydd wedi cael trafferthion ymysg arweinwyr ac sy'n wynebu diffyg ariannol o £8m.

Daeth adolygiad i'r casgliad bod gormod o fewn y cyngor ddim yn ymwybodol o'r newid sydd ei angen o fewn yr awdurdod.

Dywed yr arweinydd, Kevin O'Neill fod gan y cyngor "gynlluniau cadarn ar waith".

Fe ofynnodd Mr O'Neill am gymorth yn gynharach eleni, gyda Llywodraeth Cymru'n anfon cyn-brif weithredwr cyngor sir Swindon i gynghori.

Daeth adolygiad John Gilbert i'r casgliad nad oedd swyddogion yn deall maniffesto Mr O'Neill yn dda.

Mewn ymateb i'r adolygiad, dywedodd Aelod Cynulliad Merthyr Tudful a Rhymni, Dawn Bowden, fod y sefyllfa yn y cyngor yn "annerbyniol".

'Peryglu gwasanaethau' Merthyr

Mae'r gweinidog dros lywodraeth leol, Julie James, wedi cyhoeddi pecyn o gefnogaeth, gan gynnwys bwrdd gwelliant newydd wedi'i gadeirio gan Steve Thomas, cyn-brif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae'r cyngor yn wynebu diffyg o £8.2m yn ei chyllid y flwyddyn nesaf.

Mae'r cyngor yn cael ei arwain gan grŵp annibynnol ond heb fwyafrif llwyr, gyda Llafur fel yr wrthblaid.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steve Thomas fod "heriau i'r awdurdod sydd wir yn bygwth y gwasanaethau"

Daeth yr adolygiad i'r casgliad fod:

  • diffyg tystiolaeth o gydweithio rhwng y gwahanol bleidiau;

  • swyddogion yn ansicr o'u dyletswyddau a bod nifer o gynghorwyr yn newydd i'r swydd;

  • yr arweinydd yn "boblogaidd iawn" yn y fwrdeistref ond ei fod yn ceisio ymateb i bopeth yr oedd yn ei dderbyn yn uniongyrchol "heb gael ei sgrinio";

  • angen mwy o gymorth ar yr arweinydd er mwyn i'r awdurdod wneud penderfyniadau yn ei absenoldeb.

"Mae yna rai heriau i'r awdurdod sydd wir yn bygwth y gwasanaethau dros y cyfnod nesaf," meddai Mr Thomas.

"Rwy'n hyderus y bydd y cyngor yn cydbwyso ei gyllideb. Mae'n rhaid iddo gydbwyso ei gyllideb.

"Ond ar yr un pryd, i wneud hynny mae'n rhaid gofyn rhai cwestiynau dwfn iawn ac mae'n rhaid newid y ffordd y mae'n gwneud busnes."

'Bydd Merthyr yn ffynnu!'

Mewn datganiad dywedodd Ms James y bydd mentora ac hyfforddiant yn cael eu darparu i Mr O'Neill a'r prif weithredwr dros dro, Ellis Cooper, a bydd hyfforddiant manwl "pwrpasol" yn cael ei gynnig i gynghorwyr.

Mewn datganiad dywedodd Mr O'Neill: "Er mwyn rhoi'r sefydliad mewn sefyllfa gref ar gyfer y dyfodol, bydd angen i ni fynd drwy drawsnewidiad.

"Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl, gyda'r gefnogaeth hon gan Lywodraeth Cymru, bydd Merthyr Tudful yn ffynnu!

"Rydyn ni eisoes wedi cychwyn ar y siwrnai hon ac mae gennym ni gynlluniau cadarn ar waith i gyflawni'r trawsnewidiad hwn."