Cyngor Merthyr Tudful: Llywodraeth yn ymyrryd

  • Cyhoeddwyd
Cyngor MerthyrFfynhonnell y llun, Google

Mae Llywodraeth Cymru am ddefnyddio pwerau arbennig er mwyn ymyrryd yn y modd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cael ei redeg.

Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wnaeth y cyhoeddiad ddydd Iau, gan ddisgrifio'r sefyllfa yn y sir fel un "hynod ddifrifol".

Dywedodd ei bod yn cymryd y camau mewn ymateb i gais gan Kevin O'Neill, Arweinydd Cyngor Merthyr, ac yn dilyn cyfarfod yr wythnos diwethaf.

Bydd adolygiad annibynnol yn cael ei baratoi ar gyfer Llywodraeth Cymru gan nodi rhai o'r prif heriau sy'n wynebu'r cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd O'Neill fod y cyngor, sydd o dan arweinyddiaeth grŵp annibynnol, angen cefnogaeth "gyda chyfathrebu a chydlynu rhwng y cynghorwyr oherwydd y sefyllfa ranedig bresennol a'r heriau ariannol".

'Pwysau aruthrol'

Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd Ms James ei bod am i adolygiad eu "cynghori ar y camau sydd angen eu cymryd ar unwaith, a'r cymorth pellach sydd ei angen".

Ychwanegodd: "Bydd canlyniadau'r adolygiad hwn yn cael eu defnyddio fel sylfaen ar gyfer cynnig cymorth pellach.

"Rwyf wedi cytuno hefyd y bydd arweinydd gwleidyddol profiadol yn cydweithio ag aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i feithrin a chryfhau perthnasoedd gweithio ar draws pob grŵp gwleidyddol a rhwng aelodau a swyddogion.

"Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad wedi i'r unigolion a fydd yn cefnogi'r cyngor gael eu penodi."

Bwlch ariannol

Mewn llythyr at Ms James ar 3 Mehefin, dywedodd Mr O'Neill fod y cyngor yn wynebu pwysau aruthrol wrth geisio sicrhau gwasanaethau cymdeithasol i bobl fregus, a galwodd am help ynglŷn â sut i reoli cyllid.

Dywedodd ei bod yn anodd gwneud newidiadau oherwydd y cydbwysedd gwleidyddol o fewn y cyngor.

Mae'r cyngor yn cael ei arwain gan grŵp annibynnol ond heb fwyafrif llwyr, gyda 16 o'r 33 o gynghorwyr. Llafur yw'r wrthblaid.

Hefyd fe gyfeiriodd Mr O'Neill at bryderon oedd wedi eu mynegi gan Swyddfa Archwilio Cymru, y corff sy'n gyfrifol am oruchwylio gwariant cyhoeddus.

Y llynedd fe wnaeth y cyngor wario £560,000 o arian wrth gefn er mwyn unioni ei gyllideb. Roedd y diffyg ariannol yn bennaf oherwydd y pwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol, yn enwedig ar gyfer plant mewn gofal.