Colofn Ken: 'Ma' dal cyfle i greu bach o hanes fel carfan'

  • Cyhoeddwyd
kenFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn ei golofn olaf i Cymru Fyw o Japan, y bachwr Ken Owens sy'n edrych yn ôl ar Gwpan Rygbi'r Byd ac yn sôn am ei obeithion cyn y gêm olaf yn erbyn Seland Newydd.

Mae 'di bod yn wythnos galed. Y targed o'dd ennill Cwpan Rygbi'r Byd - nid dim ond dros y pum mis dwetha' o ymarfer ond mae 'di bod yn ddwy flynedd o baratoi a siarad am y peth.

Fi'n cofio gaethon ni gyfarfod gyda Gats ar ôl taith Seland Newydd yn 2016; dechreuodd y broses pryd 'ny. Mae'n siom bo' ni ddim 'di cael y cyfle i godi'r Cwpan.

Gaethon ni cwpwl o ddiwrnodau 'da'r teulu ar ôl gêm De Affrica achos ma' lot o'r gwath caled 'di 'neud ar gyfer y gem ola' ddydd Gwener yn barod. Ni 'di cael cwpl o sesiynau a ni'n barod i fynd.

Ffynhonnell y llun, David Ramos - World Rugby
Disgrifiad o’r llun,

Roedd colli'r rownd gynderfynol yn erbyn De Affrica yn siom i bawb

'Siom enfawr'

Yn amlwg o'dd hi'n siom enfawr peidio â chyrraedd y ffeinal ond ni 'di bod yn eitha' positif fel carfan. Ma' Gats ac Alun Wyn 'di bod yn siarad 'da ni a ni'n gwbod bod dal cyfle i dynnu'r crys coch 'mlaen.

Falle taw nid dyma'r hanes ni mo'yn creu ond ma' dal cyfle i greu bach o hanes ein hunain fel carfan.

Hon wrth gwrs fydd gêm ola' Gats a nifer o'r hyfforddwyr erill. O ran y chwaraewyr, sneb 'di siarad am ymddeoliad eto ond dyma fydd Cwpan y Byd ola' lot o'r bois.

Felly ddydd Gwener ma' cyfle i wisgo'r crys coch eto a ma' rwbeth ar y gêm: i orffen yn 3ydd - y tro dwetha' i ni 'neud hynny o'dd 1987. Dyma hefyd gyfle i guro'r Crysau Duon am y tro cynta' ers 1953.

'Angerdd'

Y peth mwya' pwysig yw'r cymeriad sy'n y garfan a'r angerdd i chwarae dros Gymru. Gallai weud wrtho chi nawr bydd hwnna yn cael ei ddangos nos Wener.

Mae gwaed newydd yn y tim yr wythnos 'ma gyda Owen Lane yn cael ei gyfle am y tro cynta'. Un rheswm yw bod lot o gyrff unai wedi torri neu ar fin torri ar ôl y gêm ddydd Sul dwetha'!

Ond na, ma' Gats mo'yn rhoi cyfle i'r bois gael y profiad o chwarae yn y gystadleuaeth 'ma. Ma' fe'n dda bod e'n meddwl am y dyfodol a 'na'r meddylfryd sy' wastad 'di bod 'da fe. Mae'n grêt gweld bod y bois sy'n cael y cyfle i chwarae ddydd Gwener 'di dod mewn 'da lot o egni!

Ffynhonnell y llun, Lynne Cameron
Disgrifiad o’r llun,

Y gêm yn erbyn Seland Newydd fydd gêm olaf Warren Gatland fel hyfforddwr Cymru

Ma' Seland Newydd mewn sefyllfa eitha' tebyg. Mae rhai o'r chwarewyr a Steve Hansen yr hyfforddwr hefyd yn gadael ar ôl y gystadleuaeth, dyna pam bydd hi'n gêm hynod o galed.

Fyddan nhw ddim mo'yn colli dwy gêm o'r bron, a ma' lot o gewri'r gêm 'da nhw yn chwarae yn eu Cwpan y Byd ola' nhw.

Mae hi'n bwysig felly bo' ni'n rhoi parch i'r gêm, parch i grys Cymru a pharch i grys Seland Newydd achos ar ddiwedd y dydd ni'n chwarae gêm ryngwladol a bydd y dwysder 'na.

Ma' Steve Hanson 'di 'neud lot i rygbi Cymru 'fyd yn ogystal â Gats a gweddill ein tîm hyfforddi ni - a ma' fe'n bwysig bo' ni'n gorffen darn bach o hanes rygbi Cymru a Seland Newydd gyda'r parch mae'n haeddu.

O ran y Haka, so ni 'di siarad am 'neud unrhywbeth sbesial eto. I rai o'r bois, dyma fydd eu cyfle cynta' nhw i fod o flaen yr Haka. Un peth sy'n sicr - fydda i ddim yn croesi'r llinell ac yn talu'r fine!

'Profiad arbennig'

Cyn mynd 'wy just mo'yn gweud mae 'di bod yn brofiad arbennig i fod 'ma, a nid dim ond achos y rygbi. Jest y cyfle i ddod i wlad hollol wahanol - gwlad bydden i byth fel arfer yn dod iddi yn ystod taith yr haf.

Ni 'di cael profiadau newydd a fel Cymry o'dd cael 15,000 o bobl yn gwylio ni yn ymarfer yn Kitakyushu yn wych a'r gefnogaeth ni 'di cael a'r ffordd ma' pobl Japan just di 'di embraco'r twrnament. I ddyfodol rygbi mae'n enfawr hefyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ken Owens yn taclo yn ystod gêm Cymru yn erbyn De Affrica

O ran y rygbi ei hun mae 'di bod yn grêt - ges i ddechrau gêm Cwpan y Byd cynta' fi, wedyn curo Awstralia. Wir, ni 'di cael profiadau grêt.

Ie, byddwn ni'n cofio colli o dri phwynt, mae'n siomedig, ond fel carfan ni 'di dangos cymeriad.

Mae'n rhaid i ni fod yn hynod o browd o be' ni di neud 'ma.

Ken

Hefyd o ddiddordeb: