Y cyn-gynghorydd Bill Hughes wedi marw yn 89 oed

  • Cyhoeddwyd
Bill Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bill Hughes yn dod o Dregaron, Ceredigion yn wreiddiol

Mae'r cyn-gynghorydd Ceidwadol o Geredigion, Bill Hughes wedi marw yn 89 oed.

Ar ddechrau ei yrfa symudodd Mr Hughes i Lundain i ddysgu addysg gorfforol, ble bu'n dysgu Bobby Moore, a enillodd Cwpan y Byd fel capten Lloegr yn 1966.

Fe gynrychiolodd y Mwmbwls fel cynghorydd am tua 17 mlynedd, ac roedd yn gyfrannydd cyson i raglenni gwleidyddol ar Radio Cymru ac S4C.

Bu Mr Hughes hefyd yn berchen ar nifer o adeiladau a chlybiau nos yn y Mwmbwls ac Abertawe, gan gynnwys Barons.

Bydd ei angladd yn cael ei chynnal yn Amlosgfa Abertawe ar 7 Tachwedd.