Galw am am weithredu yn erbyn lladd-dy yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd

RHYBUDD - GALL Y LLUNIAU YN Y DARN YMA BERI PRYDER

Ffynhonnell y llun, Animal Equality UK
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr elusen roedd defaid ac wyn yn cael eu lladd o flaen anifeiliaid eraill yn lladd-dy Farmers Fresh

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael eu hannog i gymryd camau gorfodol yn erbyn lladd-dy yn Wrecsam ar ôl i ail elusen anifeiliaid ryddhau lluniau o greulondeb anifeiliaid honedig ar y safle.

Yn ôl yr elusen Animal Equality UK fe wnaethon nhw ffilmio'n gudd yn ffatri Farmers Fresh yn Cross Lanes ym mis Gorffennaf ac Awst.

Fis ynghynt roedd yr elusen Animal Aid, wedi codi pryderon am gamdriniaeth anifeiliaid yn yr un lladd-dy.

Mae'r lluniau diweddaraf gan Animal Equality UK yn dangos delweddau o ddefaid ac ŵyn yn cael eu pennau wedi eu torri o flaen ei gilydd ac anifeiliaid yn cael eu dal mewn peiriannau.

Ffynhonnell y llun, Animal Equaliy UK
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r elusen yn honni bod anifeiliaid wedi eu gadael mewn peniau ar ôl cael eu lladd

Maen nhw hefyd yn honni bod llawer o'r hyn y gwnaethon nhw ei ffilmio wedi digwydd gydag arolygydd o'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn bresennol.

Dywedodd Abigail Penny, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Animal Equality UK: "Rydyn ni'n mynnu cyfiawnder i'r anifeiliaid bregus hyn.

"Rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd weithredu ar unwaith yn erbyn Farmers Fresh Wales a'u swyddog eu hunain a fethodd yn ei ddyletswyddau."

Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd fod cynllun gweithredu lles wedi'i roi ar waith ym mis Mehefin i fynd i'r afael â materion a gafodd eu codi yn dilyn y ffilm gychwynnol, a'i bod bellach yn ymchwilio i'r lluniau newydd.

Ffynhonnell y llun, Animal Equality UK
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y lluniau eu cymryd yn gudd gan yr elusen Animal Equality UK

"Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cymryd lles anifeiliaid mewn lladd-dai o ddifrif", meddai llefarydd.

"Mae ymchwiliad eisoes ar y gweill yn y busnes ac rydym yn archwilio'r dystiolaeth newydd hon hefyd.

"Ni allwn wneud sylwadau pellach tra bo'r ymchwiliad yn parhau."

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen Animal Equality UK ei fod wedi anfon llythyr cwyn yn adrodd ei ganfyddiadau i'r ASB, yn ei annog i gymryd camau gorfodi yn erbyn Farmers Fresh.

Dywedodd Farmers Fresh nad oedd ganddyn nhw "unrhyw sylw" i'w wneud am y lluniau diweddaraf yma.