'Dim mwy o rym petai Cymru'n annibynnol,' medd Drakeford
- Cyhoeddwyd

Mark Drakeford (dde) gyda phrif weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon - sy'n dymuno cael annibyniaeth i'r Alban
Ni fyddai gan Gymru fwy o rym fel gwlad annibynnol, yn ôl prif weinidog Cymru.
Wrth siarad ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru ddydd Llun, doedd Mark Drakeford ddim yn derbyn bod Brexit wedi arwain at fwy o ddiddordeb a chwilfrydedd mewn annibyniaeth.
"Wel dwi ddim yn cytuno â hynny o gwbl ac mae'n seiliedig ar bethau dwi'n meddwl sydd ddim yn wir," meddai.
"Mae pobl yn dweud y bydd Cymru yn medru bod yn yr Undeb Ewropeaidd fel rhywle annibynnol a dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd.
"Mae'r UE wedi bod yn glir - dydyn nhw ddim yn mynd i agor y drws i'r Alban neu i ni jest gerdded i mewn i'r Undeb Ewropeaidd."
Daw hyn wrth i'r pleidiau ddechrau paratoi am Etholiad Cyffredinol yn y Deyrnas Unedig ar 12 Rhagfyr.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae dadl Mr Drakeford yn "hollol anghywir" yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, oedd yn siarad yn lansiad ymgyrch etholiadol ei blaid yn Ynys Môn.
"Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi dweud y bydden nhw'n croesawu Alban annibynnol i wneud cais i ymuno gyda'r UE.
"Felly mae [Mr Drakeford] yn camarwain pobl os ydy e wedi dweud hynny."
Cyfeiriodd Mr Price at esiampl Gweriniaeth Iwerddon - "gwlad fach", meddai, ond un oedd yn "cael parch" gan wledydd eraill Ewrop.
"Mae'n gymaint o contrast i'r ffordd mae Cymru wedi cael ei thrin o fewn yr undeb Brydeinig yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2019