Cofio'r awdures Bethan Phillips sydd wedi marw'n 84 oed

  • Cyhoeddwyd
Bethan PhillipsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bethan Phillips yn briod â John, yn fam i ddau ac yn famgu i bump o wyrion

Bu farw'r awdures a'r sgriptwraig teledu a radio Bethan Phillips yn 84 oed.

Roedd Ms Phillips yn fwyaf adnabyddus am ysgrifennu'r gyfrol Dihirod Dyfed, a gafodd ei gyhoeddi yn wreiddiol yn 1991.

Roedd y gyfrol, sy'n adrodd hanes chwe llofruddiaeth erchyll a ddigwyddodd rhwng 1850 a 1916, wedi ei seilio ar ddwy gyfres deledu lwyddiannus o'r un enw ar S4C, a gafodd ei hymchwilio gan Ms Phillips.

Bu'n cydweithio gyda Paul Turner - a fu farw'r wythnos ddiwethaf yn 73 oed - ar y gyfres deledu, ble'r oedd ef yn gyfarwyddwr.

Fe ysgrifennodd sawl llyfr, sgriptiau teledu a radio hefyd, ac fe gyfrannodd i nifer fawr o erthyglau ac adolygiadau yn y Western Mail, Y Faner, Country Quest a Planet.

Roedd hi'n briod â John, yn fam i ddau ac yn famgu i bump o wyrion.

Ffynhonnell y llun, Gwales/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llyfr gwreiddiol ei gyhoeddi gyntaf yn 1991 ac yna'i ail-argraffu yn 2003

Fe ddechreuodd hi ysgrifennu ar ôl dychwelyd i Lanbedr Pont Steffan i fyw, gan ddechrau drwy ymchwilio i hanes sgweier lleol, Syr Herbert Lloyd.

Cafodd ei nofel 'Peterwell' groeso brwd gan ddarllenwyr, ac fe arweiniodd hynny at ddatblygu sgriptiau i deledu ac i fywoliaeth fel awdures.

"Wrth i chi ymchwilio i un stori mae'n anochel eich bod yn dod ar draws straeon eraill sydd o ddiddordeb i chi," meddai Ms Phillips wrth y BBC yn 2007.

"Dyma sut mae sawl o'r straeon yn fy llyfrau yn dod i fy sylw. Mae rhai yn straeon am lofruddiaethau, ond mae fy mhrif ffocws ar beth a pha amgylchiadau sydd wedi cymell pob un.

"Yn sicr nid oes modd cyfiawnhau llofruddiaeth, ond weithiau mae modd ei ddeall," meddai.

"Mae'r trasiedi sydd ynghlwm â'r weithred eithafol yma weithiau yn gallu ymestyn i stori gefndirol y drwgweithredwyr, ac rydw i wedi tueddu i chwilio am straeon lle'r oedd hynny'n ffactor."

Yn ei adolygiad o'r gyfrol Dihirod Dyfed ar wefan Gwales, mae'r awdur Lyn Ebenezer yn disgrifio'r straeon fel "clasur sy'n darllen fel nofel" gan ddweud bod y cefndir hanesyddol yn caniatáu i'r darllenydd "gael ei lusgo yn ôl i'r cyfnodau o dan sylw".

Bu Mrs Phillips hefyd yn sgriptio rhaglenni i gyfres Almanac ac aeth ymlaen i astudio dyddiaduron Joseph Jenkins y Swagman gan ysgrifennu'r gyfrol Rhwng Dau Fyd, a oedd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn.

Cafodd gais o Awstralia am fersiwn Saesneg ac wedi rhagor o ymchwil ymddangosodd 'Pity the Swagman' yn 2005.

Penderfynwyd gwneud ffilm ac aeth Mrs Phillips allan i Awstralia gyda Paul Turner a Dafydd Hywel.

Ymddangosodd 'y Swagman from Wales' ar BBC 1 a'r 'Swagman o Geredigion' ar S4C gyda Dafydd Hywel yn chwarae rhan Joseph Jenkins.