Drakeford yn ymosod ar y Ceidwadwyr yn lansio ymgyrch Llafur
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymosod ar y Ceidwadwyr gan eu cyhuddo o "fethu pobl sy'n gweithio" ac o "lwgu gwasanaethau cyhoeddus o arian".
Roedd Mark Drakeford yn siarad yn lansiad ymgyrch etholiad cyffredinol y Blaid Lafur yng Nghaerdydd ddydd Mercher.
Dywedodd arweinydd Llafur Cymru y byddai llywodraeth Lafur yn y DU yn cynyddu'r arian fyddai ar gael i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, llywodraeth leol ac addysg.
"Mae'r etholiad hwn yn ddewis clir rhwng Llafur Cymru a fydd yn sefyll drosoch chi a'ch teulu - a Phlaid Dorïaidd sy'n methu pobl sy'n gweithio," meddai Mr Drakeford.
"Byddwn yn dwyn y Torïaid i gyfrif am y dewisiadau y maen nhw wedi'u gwneud. Dewisiadau sy'n gadael teuluoedd sy'n gweithio yn waeth eu byd ac yn llwgu gwasanaethau cyhoeddus o arian.
"Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd â llywodraeth Lafur ac rydym wedi sicrhau newid gwirioneddol i bobl - i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Ond gallem wneud cymaint mwy â Llywodraeth Lafur y DU.
"Os ydych chi am roi anhrefn y Torïaid a degawd o lymder y tu ôl i ni, pleidleisiwch dros Lafur."
Dywed Llafur y byddan nhw'n cynyddu'r isafswm cyflog i £10 yr awr ar gyfer gweithwyr ar y cyflog isaf, yn ail-wladoli'r rheilffyrdd ac yn creu swyddi trwy gynlluniau ynni amgylcheddol fel Lagŵn Bae Abertawe.
Yn siarad â BBC Cymru ddydd Mercher, dywedodd Mr Drakeford bod mwy i'r etholiad na Brexit.
"Byddai llywodraeth Lafur yn ail-drafod cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd ac yn rhoi'r penderfyniad yn ôl yn nwylo'r cyhoedd mewn refferendwm," meddai.
"Aros yn yr UE ydy'r cytundeb gorau fyddwn ni fyth yn ei gael."
Bydd Etholiad Cyffredinol ar gyfer Llywodraeth y DU yn digwydd ar 12 Rhagfyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2019