Uchder wal yn ffactor ym marwolaeth Cymro ar Ynys Majorca
- Cyhoeddwyd
Mae crwner yn achos dyn o Wrecsam wnaeth syrthio o falconi gwesty ar Ynys Majorca wedi dweud fod uchder wal ac alcohol wedi bod yn ffactorau yn ei farwolaeth.
Fe wnaeth Tomas Owen Hughes, myfyriwr 20 oed, ddisgyn tua 20 metr tra ar wyliau yn Magaluf fis Mehefin y llynedd.
Bu farw o anafiadau i'w ben ar ôl syrthio pedwar llawr oddi ar rodfa oedd a wal ar un ochr.
Ef oedd y trydydd ymwelydd o Brydain i farw yng ngwesty Eden Roc yn 2018.
Yng Ngorffennaf bu farw Thomas Channon o'r Rhws, Bro Morgannwg ar ôl syrthio 70 troedfedd o'r rhodfa, ac ym mis Ebrill fe syrthiodd Natalie Cormack o'r Alban i'w marwolaeth o'r seithfed llawr.
Clywodd y cwest fod Mr Hughes a'i ffrind Josh Roberts wedi bod yn yfed gyda ffrindiau eraill o Wrecsam cyn iddyn nhw wahanu.
Y diwrnod canlynol cafwyd hyd i gorff Mr Hughes ar y llawr wrth droed grisiau'r gwesty.
'Cyflwr yr adeilad'
Daeth ymchwiliad i'r casgliad fod Mr Hughes yn ddryslyd pan gyrhaeddodd y gwesty, a'i fod wedi syrthio dros wal.
Mewn datganiad i'r llys dywedodd ei fam Sharon Hughes fod Tom yn berson roedd "pawb wnaeth ei gwrdd yn ei garu," gan ychwanegu "ei fod yn caru bywyd ac yn byw bywyd i'r eithaf".
Dywedodd y crwner John Gittins mai un o ffactorau allweddol y farwolaeth oedd cyflwr yr adeilad.
"Heb anwybyddu'r alcohol.... roedd y wal yn ffactor bwysig," meddai.
Ychwanegodd ei fod wedi gweld lluniau mwy diweddar yn dangos fod gwaith wedi ei gwblhau i wneud y lleoliad yn fwy diogel.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2019