Magaluf: Teulu'n galw am gamau diogelwch ar frys
- Cyhoeddwyd
Mae llysgennad Y DU a swyddogion yn Sbaen wedi addo y byddan nhw'n arwain ymgyrch i sicrhau diogelwch ymwelwyr yn dilyn marwolaeth llanc 18 oed o Fro Morgannwg ym Magaluf.
Daw hyn yn sgil galwadau gan deulu Thomas Channon o'r Rhws i gyflwyno gwelliannau diogelwch ar frys i atal rhagor o farwolaethau.
Bu farw Thomas ar ôl syrthio 70 troedfedd ar dir safle llety gwyliau Eden Roc ar ynys Majorca ddydd Iau diwethaf.
Dywedodd y llysgennad, Simon Manley, a llywydd Ynysoedd Balearic, Francina Armengol, eu bod am "barhau â'r ymgyrch yn erbyn y perygl sy'n wynebu twristiaid ifanc o syrthio o westai."
Fe wnaethon nhw hefyd annog gwestai i wella mesurau diogelwch ac i fynd ati i drafod rheolau yn ymwneud â gwerthiant alcohol.
'Syrthio dros wal'
Fore Mercher, ar raglen deledu Good Morning Britain fore Mercher, dywedodd tad Thomas, John Channon, ei fod yn teimlo y byddai ei fab yn dal yn fyw pe bai camau diogelwch wedi eu cymryd yn syth ar ôl marwolaethau cynharach,
Ei fab yw'r trydydd ymwelydd o Brydain i farw yn y gwesty eleni - ym mis Mehefin bu farw Tom Hughes, 20 o Wrecsam, ac ym mis Ebrill, bu farw Natalie Cormack, 19, o'r Alban.
Dywedodd Ben Price, gohebydd BBC Cymru sydd ym Magaluf, ei fod wedi bod yn siarad gyda gweithiwr yn y gwesty ddaeth o hyd i gorff Thomas, a'i fod ef yn credu iddo syrthio dros wal.
"Dyw hi ddim yn glir sut y syrthiodd dros y wal ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau."
Dywedodd Ben Price ei fod hefyd wedi siarad gyda ffrindiau Thomas a rhai o'u rhieni.
"Mae rhieni a ffrindiau Thomas wedi bod i ymweld â'r fan lle cwympodd ac mae un fam wedi dweud ei bod yn credu bod y wal yn lot rhy isel.
"Dywedodd hi hefyd ei bod yn ymddangos bod lot o goed a llwyni y tu ôl i'r wal, sy'n rhoi'r argraff fod gardd yna, ond mewn gwirionedd mae e 70 troedfedd o'r ddaear.
"Dwi fy hun wedi bod i'r wal a byddwn i'n dewud ei fod yr un uchder a fy mhen-glin."
'Addfwyn, caredig a hael'
Disgrifiodd rhieni Thomas Channon eu mab fel dyn "addfwyn, caredig a hael", gan ddweud eu bod wedi eu "llorio" yn dilyn ei farwolaeth.
Cafodd cyfarfod brys o cyngor tref Magaluf ei gynnal wedi ei farwolaeth.
Daeth y maer lleol, swyddogion twristiaeth, yr heddlu a chynghorwyr tref at ei gilydd i drafod y digwyddiad.
Roedd Mr Channon wedi teithio i Magaluf i ddathlu diwedd ei arholiadau Safon Uwch.
Roedd yn aros yng ngwesty Universal Hotel Florida ac mae heddlu Sbaen yn credu iddo grwydro i mewn i'r gwesty arall cyn disgyn dros 20 metr yn oriau mân bore Iau.
Wedi'r marwolaethau, mae grŵp Abta wedi annog pobl sydd ar eu gwyliau i gymryd gofal.
Mae'r Swyddfa Dramor hefyd wedi rhybuddio twristiaid i gymryd gofal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2018