Arestio tri ar amheuaeth o gaethwasiaeth fodern
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi cael eu harestio yn dilyn honiadau fod staff mewn dau gartref gofal a nyrsio yn cael eu trin fel caethweision.
Bu swyddogion o Heddlu Gwent a'r Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol yn archwilio Cartref Nyrsio Danygraig yng Nghasnewydd a chartref gofal Ashville ym Mrithdir, Sir Caerffili fore Iau.
Hyd yma mae dau ddyn 53 a 64 oed o ardal Casnewydd a dyn arall 43 oed o Surrey wedi eu harestio ar amheuaeth o gaethwasiaeth fodern a throseddau eraill.
Dywedodd yr heddlu nad oedd yr ymchwiliad o ganlyniad i unrhyw bryderon gafodd eu codi am droseddau yn erbyn pobl yn y cartrefi.
Mewn datganiad ar y cyd rhwng cynghorau sir Casnewydd a Chaerffili, dywedodd llefarydd: "Rydym yn gwerthfawrogi y gallai teuluoedd fod yn bryderus o ganlyniad i ddigwyddiadau heddiw ond hoffem eu sicrhau bod eu hanwyliaid yn ddiogel a'u lles yw ein blaenoriaeth."
Mae'r heddlu'n canolbwyntio ar dŷ yn agos i'r cartref ym Mrithdir, ble'r oedd - yn ôl pobl leol - grŵp o fenywod o Affrica yn byw.
Dywedodd un person sy'n byw gerllaw ac sydd eisiau aros yn ddienw fod yr heddlu wedi cyrraedd tua 06:30 bore Iau.
"'Dyn ni'n meddwl eu bod nhw'n dod o Affrica," meddai. "Mae'r ieuengaf yn edrych tua 18 oed ac fe all yr hynaf fod rhwng 40 a 50."
'Troseddau difrifol'
Mae'r heddlu wedi sefydlu canolfan ar gyfer y rhai sydd o bosib wedi dioddef o'r troseddau.
Mae swyddogion arbenigol o'r uned masnachu mewn pobl yn cydweithio gyda nifer o sefydliadau - y Groes Goch, Byddin yr Iachawdwriaeth a New Pathways yn eu mysg - er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cael eu hamddiffyn ac yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw.
Mae'r cynghorau lleol a'r bwrdd iechyd hefyd yn rhan o'r gwaith o sicrhau nad yw hyn yn effeithio ar breswylwyr y cartrefi, a'r gofal maen nhw'n ei gael.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Nicky Brain fod y troseddau y maen nhw'n ymchwilio iddyn nhw'n rhai difrifol, ac y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw.
Diffiniad y Swyddfa Gartref o gaethwasiaeth fodern yw manteisio'n anghyfreithlon ar bobl er budd personol neu fasnachol, pan fo dioddefwyr yn cael eu twyllo neu eu gorfodi i weithio ac nad ydyn nhw'n teimlo y gallan nhw adael.
Mae dioddefwyr yn aml yn dod o dramor, ac mae'r Swyddfa Gartref yn nodi bod cynnydd o 17% wedi bod mewn achosion o gaethwasiaeth fodern ers 2015.