BBC yn cael hawliau uchafbwyntiau Pro14 unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn Jones a Jonathan DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe fydd uchafbwyntiau cynghrair rygbi'r Pro14 ar gael i'w gwylio ar deledu am ddim unwaith eto ar ôl i'r BBC sicrhau'r hawliau darlledu.

Bydd yr uchafbwyntiau yn cael eu darlledu ar raglen Scrum V o ddydd Sul 10 Tachwedd ymlaen, a hynny am y ddau dymor nesaf.

Ar hyn o bryd sianel loeren Premier Sports sydd â hawliau darlledu'r gystadleuaeth, gydag S4C hefyd yn dangos rhai gemau yn fyw.

Yn ogystal ag uchafbwyntiau o gemau rhanbarthau Cymru bob nos Sul, bydd BBC Cymru hefyd yn darlledu rhaglen ar nos Lun yn cynnwys uchafbwyntiau gemau eraill y gystadleuaeth.

'Newyddion gwych i gefnogwyr'

Ym mis Ebrill 2018 fe gyhoeddwyd fod sianel Premier Sports wedi sicrhau hawliau darlledu'r gynghrair am dair blynedd o 2018/19 ymlaen.

Yn dilyn hynny fe wnaeth BBC Cymru gyhoeddi y byddan nhw'n dangos gemau Uwch Gynghrair Principality yn fyw o'r tymor hwnnw ymlaen.

Maen nhw nawr wedi ailychwanegu uchafbwyntiau'r Pro14 at eu harlwy rygbi, gan ddechrau'r penwythnos yma gyda'r Gweilch v Southern Kings, Gleision v Cheetahs, Scarlets v Benetton a'r Dreigiau v Caeredin.

"Ynghyd â Chwpan y Byd anhygoel yn Japan a her ddramatig ar frig tablau'r Gynhadledd, mae hi'n amser gwych i weld uchafbwyntiau y bencampwriaeth yn dychwelyd i'r BBC," meddai Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru Geoff Williams.

"Mae rygbi yn rhan o'n sgwrs cenedlaethol a byddwn yn dod â'r cyfan i gefnogwyr ar draws y wlad."

Ychwanegodd Dermot Rigley, Cyfarwyddwr Masnachol Rygbi Pro14: "Mae'r ffaith bo'r BBC wedi dychwelyd i gystadleuaeth Guinness y Pro14 yn newyddion gwych i'n cefnogwyr ac yn ychwanegu partner darlledu arall i'n Pencampwriaeth."