Cynnal gigiau Plan B ar ôl canslo Maes B mewn tywydd garw

  • Cyhoeddwyd
Y band GwilymFfynhonnell y llun, Y Selar
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y band Gwilym - a fethodd a chwarae ym Maes B - yn perfformio yn Wrecsam

Mae Maes B wedi cyhoeddi gigiau yn lle'r nosweithiau a gafodd eu canslo yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst eleni.

Penderfynodd yr Eisteddfod ganslo'r gigiau Maes B ar y nos Wener a Sadwrn oherwydd tywydd garw.

Bydd un gig yn Undeb Myfyrwyr Caerfyrddin ar 13 Rhagfyr, a'r llall yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam ar 14 Rhagfyr.

Plan B fydd enw'r nosweithiau, i'w cynnal "heb y mwd, glaw, mellt a tharanau tro 'ma".

Bydd cyngerdd Caerfyrddin yn cynnwys bandiau fel Mellt ac Adwaith tra bydd cyngerdd Wrecsam yn cynnwys Gwilym a Los Blancos.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid i wersyllwyr adael y maes yn gynnar oherwydd tywydd garw

Mae'r cyhoeddiad yn dod wedi i'r Eisteddfod orfod canslo gigs Maes B ar y nos Wener a'r nos Sadwrn oherwydd tywydd garw.

Bu'n rhaid cau'r maes pebyll ieuenctid deuddydd yn gynnar oherwydd pryderon iechyd a diogelwch.

Roedd yn rhaid i bobl ifanc a oedd yn bwriadu gwersylla yno orfod dod o hyd i ffyrdd o deithio adref o'r ŵyl yn gynnar.

Yn dilyn canslo diwedd yr ŵyl, cafodd ad-daliadau eu trefnu ar gyfer pobl oedd â thocynnau wythnos neu docynnau unigol ar gyfer nos Wener a nos Sadwrn.