Arestio pedwerydd person ar amheuaeth o gaethwasiaeth fodern
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi arestio pedwerydd person yn dilyn honiadau fod staff mewn dau gartref gofal a nyrsio yn cael eu trin fel caethweision.
Fe gafodd dau ddyn 53 a 64 oed o ardal Casnewydd a dyn arall 43 oed o Surrey eu harestio ddydd Iau ar amheuaeth o gaethwasiaeth fodern a throseddau eraill.
Mae'r tri bellach wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth amodol, ond bellach mae'r heddlu wedi arestio dynes 37 oed o ardal Rhymni ar amheuaeth o'r un troseddau.
Mae'r ddynes yn parhau yn nalfa'r heddlu ar hyn o bryd.
'Troseddau difrifol'
Bu swyddogion o Heddlu Gwent a'r Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol yn archwilio Cartref Nyrsio Danygraig yng Nghasnewydd a chartref gofal Ashville ym Mrithdir, Sir Caerffili fore Iau.
Dywedodd yr heddlu nad oedd yr ymchwiliad o ganlyniad i unrhyw bryderon gafodd eu codi am droseddau yn erbyn pobl yn y cartrefi.
Bu'r heddlu'n canolbwyntio ar dŷ yn agos i'r cartref ym Mrithdir, ble'r oedd - yn ôl pobl leol - grŵp o fenywod o Affrica yn byw.
Mae'r Ditectif Brif Uwcharolygydd Nicky Brain eisoes wedi dweud fod y troseddau y maen nhw'n ymchwilio iddyn nhw'n rhai difrifol, ac y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r llu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2019