Cyngor Caerdydd am newid statws Eglwys Norwyaidd y Bae
- Cyhoeddwyd
Mae'r ansicrwydd am statws a dyfodol yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd yn parhau.
Mae dros 6,500 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn gwrthwynebu bwriad Cyngor Caerdydd i newid statws yr eglwys o fod o dan reolaeth elusen i fod yn fusnes preifat.
Mae'r ymddiriedolaeth sy'n gyfrifol am yr adeilad, Cymdeithas Norwyaidd Cymru, yn anhapus ac yn dweud nad oes modd newid y statws.
Ond yn ôl y cyngor, nid eu bwriad ydy gwerthu'r eglwys ond yn hytrach sicrhau gweithredwr i redeg yr adeilad ar sail prydles fel y gall yr adeilad wneud y mwyaf o'i botensial masnachol.
Mae'r eglwys, sydd â chanolfan gelf a chaffi, yn atyniad sy'n denu miloedd drwy'r drws bob blwyddyn.
Ond pryder Cymdeithas Norwyaidd Cymru yw nad ydy Cyngor Caerdydd yn cydymffurfio â deddfau elusennol, ac y gallai hynny arwain at golli adeiladau hanesyddol.
Dywedodd Tyra Oseng-Rees, Cadeirydd y Gymdeithas, bod yr Eglwys Norwyaidd oedd yn Abertawe erbyn hyn yn feithrinfa.
"Mae 'na bryder y bydd busnes preifat yn dilyn yr un llwybr, ac y bydd, yn golled hanesyddol a chelfyddydol i Gaerdydd," meddai.
"Mae 'na ofid gwirioneddol ar ôl gweithio mor galed i godi arian i'r elusen a derbyn grantiau gan Gymru a Norwy i adfer yr adeilad."
Ychydig o hanes yr Eglwys
Mae'r eglwys yn y Bae yn un hanesyddol ac yn dyddio nôl i 1869.
Yma y cafodd yr awdur enwog Roald Dahl ei fedyddio, ac roedd yr eglwys wreiddiol ar safle Canolfan y Mileniwm heddiw.
Ond wedi dadgysegru'r eglwys ym 1974, ac yn sgil datblygiadau Bae Caerdydd ar ddiwedd yr 80au - fe gafodd ymddiriedolaeth ei sefydlu i warchod yr adeilad.
Cafodd rhannau o'r eglwys wreiddiol eu hachub ac fe gafodd yr hyn a welwn ni heddiw ei hail-adeiladu.
Yn ôl John Hines, un o ymddiriedolwyr yr eglwys, mae'r ansicrwydd ynglŷn â statws yr eglwys yn "siomedig".
"Mae yna lawer o siom, yn arbennig gan eu bod nhw (Cymdeithas Norwyaidd Cymru) wedi buddsoddi cymaint o arian, a cymaint o egni i godi'r lle i fod yn rywle amlwg, ac sy'n atyniad i lawer o bobl sy'n dod i Gaerdydd o bedwar ban byd," meddai.
Mae Howard Williams, un o drigolion Bae Caerdydd, hefyd yn erbyn y syniad o drosglwyddo'r eglwys i ddwylo preifat.
"'Dwi'n meddwl y byddai'n drist iawn," meddai. "Mae'r ffaith ei fod o'n elusen yn beth da, yn ogystal â'r ffaith ei fod yn gysylltiad agos gyda Norwy.
"'Dwi'n deall bod y cyngor eisiau gwneud mwy o arian o'r eglwys ei hun a gweld y caffi yn llewyrchu, ond dwi ddim yn meddwl mai dyma'r ffordd orau i gyflawni hynny."
Adeilad 'eiconig'
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Fel yr unig ymddiriedolwr, bydd y cyngor yn sicrhau y bydd unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cadw cyfanrwydd yr eglwys, gan sicrhau bod yr adeilad yn cadw ei statws eiconig yn y Bae.
"Mae cydbwyso'r llyfrau wrth gynnal y gwasanaethau y mae ein preswylwyr eu heisiau yn mynd yn anoddach bob blwyddyn.
"Mae hyn yn golygu ei bod yn dod yn anoddach bob blwyddyn i gyfiawnhau cymorthdaliadau ariannol parhaus pan fydd gwasanaethau rheng flaen yn cael eu rhoi mewn perygl."
Ychwanegodd y datganiad nad oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud ar ddefnydd yr adeilad ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2019