Pryder am ddyfodol yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Gall rhan bwysig o'n hanes fynd ar goll os yw cwmni mawr rhyngwladol yn agor bwyty yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, yn ôl ymgyrchwyr.
Daw rhybudd Cymdeithas Norwyaidd Cymru ar ôl i Gyngor Caerdydd ddweud na allan nhw fforddio cynnal yr adeilad a bod yn rhaid dod o hyd i bartner masnachol.
Mae'r gymdeithas yn poeni am y ffaith nad yw'r awdurdod lleol, sy'n gyfrifol am ofalu am yr adeilad ers 2006, wedi trafod y cynlluniau gyda nhw.
Yn ôl y cyngor mae'r eglwys yn adeilad eiconig yn y bae a sicrhau ei ddyfodol yw'r nod.
Mae Cymdeithas Norwyaidd Cymru'n hyrwyddo hanes a threftadaeth Norwy ac yn cynnal digwyddiadau yn yr Eglwys yn fisol.
Cafodd ei hadeiladu'n wreiddiol ar gyfer morwyr o Sgandinafia oedd yn gweithio yn nociau Caerdydd. Byddai coed o wledydd Llychlyn yn cael eu cludo i Gaerdydd i'w defnyddio fel trawstiau yn y gweithfeydd glo.
Arhosodd nifer o'r gweithwyr yng Nghaerdydd gan fagu teuluoedd yma - yn eu plith rhieni'r awdur Roald Dahl.
Yn ôl cadeirydd y gymdeithas, Tyra Oseng-Rees, maen nhw'n poeni y gallai cwmni masnachol mawr ddewis anwybyddu pwysigrwydd diwylliannol yr adeilad.
"Beth ni'n ofni yw y gallai cwmni mawr fel Starbucks, McDonalds neu Burger King gael gafael ar yr adeilad," meddai.
"Wedi'r cyfan mae e mewn lleoliad gwych - tafliad carreg o'r Cynulliad yma ym Mae Caerdydd - a tase hynny'n digwydd yna allwn ni anghofio am y dreftadaeth a'r diwylliant sy'n gysylltiedig â'r lle hwn a dim ond adeilad fydd ar ôl."
Ychwanegodd bod hynny eisoes wedi digwydd gydag Eglwys Norwyaidd Abertawe, sydd bellach yn feithrinfa breifat.
'Angen gwariant sylweddol'
Mae Cyngor Caerdydd yn dweud nad oes dewis ganddyn nhw ond ceisio dod o hyd i bartner masnachol oherwydd diffyg arian.
Maen nhw'n dweud bod angen gwariant sylweddol ar yr adeilad a bod ei leoliad yn cynnig cyfle masnachol arbennig.
Dywedodd John Hines, sydd o dras Norwyaidd, bod y gymdeithas yn awyddus i gydweithio â'r cyngor.
"Os oes problemau, os oes heriau, os oes pryderon wel deled a nhw a'r peth gorau yw i ni weithio mewn partneriaeth i ddatrys yr holl bethau yna," meddai.
"Dwi ddim am feio unigolion - dwi ddim am feio swyddogion y cyngor o gwbl - ond dwi'n gweld bod y sefyllfa wedi datblygu mewn cyfeiriad sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd."
Ychwanegodd y cyngor nad oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud ynglŷn â dyfodol yr adeilad a bydd gwybodaeth bellach yn cael ei ryddhau pan fydd ar gael.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2017