Cofio'r hanesydd a'r casglwr Bobi Owen fu farw yn 88 oed

  • Cyhoeddwyd
Bobi Owen yn agoriad swyddogol Theatr Twm O'r Nant ar ei newydd weddFfynhonnell y llun, Gwyneth Kensler
Disgrifiad o’r llun,

Bobi Owen yn agoriad swyddogol Theatr Twm O'r Nant, Dinbych wedi gwaith uwchraddio i'r adeilad

Mae un o gymeriadau amlycaf tref Dinbych, yr hanesydd lleol Robert Morris Owen wedi marw yn 88 oed.

Roedd Bobi Owen, fel roedd pawb yn ei adnabod, yn cael ei ystyried yn awdurdod ar hanes a bywyd y dref a Dyffryn Clwyd.

Roedd hefyd yn gasglwr brwd ac yn awdur amryw o lyfrau ac ysgrifau'n ymwneud â hanes lleol.

Dywedodd y cynghorydd sy'n cynrychioli canol Dinbych ar Gyngor Sir Ddinbych, Gwyneth Kensler: "Os oedd gan unrhyw un unrhyw gwestiwn am Ddinbych a'i phobl, roeddech chi'n ffonio Bobi."

Ffynhonnell y llun, Ruth Williams
Disgrifiad o’r llun,

Bobi Owen yn hel atgofion wrth baratoi ar gyfer arddangosfa Ysgolion Dinbych yn 2016

Cafodd ei eni a'i addysgu yn Ninbych, ac fe ddechreuodd ei ddiddordeb mewn hanes yn ei blentyndod wrth siarad gyda'r dynion oedd yn gweithio i fusnes cario glo ei daid.

Wedi cyfnod yn dysgu yn ysgolion y sir, cafodd ei benodi'n brifathro Ysgol y Grawys, Dinbych ac yna'n bennaeth ysgol newydd Heulfre yn y dref yn 1976.

Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Hanes Dinbych, yn olygydd cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, ac yn aelod o ymddiriedolaeth a sefydlwyd i geisio achub hen adeilad Gwasg Gee yng nghanol Dinbych a chreu amgueddfa yno.

Roedd hefyd yn ysgrifennu erthyglau i bapurau bro'r ardal ac yn rhoi darlithoedd i gymdeithasau a mudiadau lleol.

'Casgliadau pwysig'

Roedd yn gasglwr llyfrau, llythyrau, lluniau, cardiau post a biliau, ac roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn unrhyw beth yn ymwneud ag Eisteddfodau Dinbych.

Cafodd detholiad o'i gasgliad ei ddangos mewn arddangosfa yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a'r Cyffiniau 2001.

Dywedodd Ms Kensler ei fod "yn sylweddoli pwysigrwydd ei gasgliadau ac eisiau sicrhau eu bod yn saff ar gyfer y dyfodol", ac y bydden nhw "yn ddelfrydol" yn cael eu rhoi yng ngofal sefydliadau fel y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Bobi Owen ar raglen Antiques Roadshow yn 2008 pan ofynnodd am farn yr arbenigwyr am werth llyfr a medal o Eisteddfod Brenhinol Dinbych 1828

Cafodd Mr Owen ei anrhydeddu â gwisg werdd Gorsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol 2002 am ei gyfraniad i fywyd a Chymreictod ei fro enedigol.

Fe wnaeth hefyd dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yn 2010 am ei wasanaeth i hanes lleol.

Mae Ms Kensler yn ei gofio fel "athro ysbrydoledig" oedd â "meddwl chwim at y diwedd un".

Roedd yn arfer mwynhau chwarae criced a golff, meddai, ac roedd marwolaeth ei wraig, Rachel, dros chwarter canrif yn ôl "yn golled fawr iawn iddo".

Fe fyddai Mr Owen wedi cael ei ben-blwydd yn 89 oed ar 21 Tachwedd ac roedd wedi trefnu i'w ddathlu gyda hen ffrindiau, gan gynnwys Ms Kensler.

"Byddan ni'n dal yn cyfarfod ar y diwrnod i'w gofio," meddai.