Tu ôl i'r llen ar set The Crown
- Cyhoeddwyd
Mae talp o hanes Cymru i'w weld yng nghyfres newydd The Crown sy'n dechrau ar Netflix ar 17 Tachwedd gyda hanes cythryblus arwisgo'r Tywysog Charles a thrychineb Aberfan yn rhan ganolog o ddwy bennod.
Un o'r rhai oedd yn gyfrifol am daflu tref Caernarfon nôl i 1969 gyda baneri a phosteri cyfnod yr arwisgo ar gyfer y ffilmio yn 2018 oedd y dylunydd a'r cyfarwyddwr celf, Gwyn Eiddior.
Mae rhai wedi lleisio pryder na fydd y bennod sy'n ail-greu hanes dadleuol coroni Tywysog Cymru yn rhoi darlun teg o'r gwrthwynebiad oedd ymysg rhai Cymry i'r digwyddiad.
Ond yn ôl Gwyn Eiddior mae'r bennod yn trafod hunaniaeth Cymru a'r cwmni cynhyrchu wedi gwneud yn siŵr fod Cymry yn gweithio ar y cynhyrchiad er mwyn rhoi darlun cywir.
"Mae 'na flas Cymreig cryf i'r gyfres newydd gyda phennod am yr Arwisgo ac Aberfan felly roedd Netflix am sicrhau fod 'na Gymry yn rhan o'r gyfres, a'r dylunydd am weld rhywfaint o gymeriad a gwedd Cymru yn weledol yn y ddrama hefyd," meddai.
Roedd hynny'n golygu bod rhaid gwneud yn siŵr fod y manylyn lleiaf yn adlewyrchu'r iaith a'r cyfnod yn gywir.
"Ro'n i yng ngofal y setiau yng Nghymru, yn benodol yn Aberystwyth lle treuliodd Charles dymor yn astudio, wedyn yn Nghaernarfon lle ddigwyddodd yr Arwisgo," esboniodd Gwyn.
"Y prif leoliad yn Nghaernarfon oedd y castell ond fuon ni'n ffilmio ar y Maes ac amrywiol leoliadau rownd y dre.
"Mae The Crown yn enwog am fanylder y gwaith dylunio, y setiau mawr ysblennydd, y plasdai yn llawn manylion o'u cyfnod; mae lleoliadau a chartrefi'r werin yr un mor fanwl hefyd.
"Mae 'na gymaint o waith yn mynd i wisgo'r setiau efo celfi, dodrefn a graffeg cywir; yn aml cyfran fach o hyn sy'n cael ei weld yn y bennod derfynol, ond ma' rhaid paratoi at bopeth.
"Yng Nghaernarfon roedd rhaid i ni gael gwared o unrhyw nodweddion cyfoes: arwyddion ffyrdd, goleuadau, arwyddion siop modern, powlenni lloeren.
"Fe wnaethon ni wisgo sawl stryd efo baneri, bunting, posteri. Roedd coets Charles a cheffylau'r Devil's Horsemen yn union fel yr oeddan nhw yn '69.
"Rhwng yr adrannau i gyd roedd 94 yn gweithio ar adran gelf The Crown, mae hynny yn dipyn mwy na'r rhan fwyaf o gynyrchiadau Cymreig; dwi 'di arfer gweithio efo tua pedwar fel arfer!"
Roedd Gwyn yn gweithio gyda'r adrannau adeiladu, peintio, graffeg, props, gwisgo ac addurno ac yn gwneud pethau fel dylunio'r llefydd eistedd a'r llwyfannau yn y castell a chreu pethau fel arwyddion, posteri a llyfrau - a gwneud yn siŵr eu bod yn gwneud synnwyr yn Gymraeg.
"Mi ofynnon nhw am fy help i ail-greu rhai o'r posteri cenedlaetholgar yn erbyn yr Arwisgo," meddai Gwyn.
"'I can probably get hold of the originals for you!' medda fi, diolch i'r Lolfa, Plaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith a chasgliad Geoff Charles [ffotograffydd y cyfnod].
"Araith Carlo ei hun oedd y ddogfen bwysig gan fod y bennod i gyd yn cylchdroi o gwmpas ei araith bron.
"Fues i'n sdryglo eitha' dipyn efo hi - dwi'n llaw chwith ac fel ma'r lefties i gyd yn gwybod mae trin fountain pen inc hen ffash yn drafferthus!"
Ar wahân i'r props a'r posteri, roedd siaradwyr Cymraeg eraill yn helpu gyda'r golygfeydd Cymraeg gafodd eu ffilmio - y cynhyrchydd a'r awdures Angharad Elen yn addasu'r ddeialog ac araith Gymraeg y Tywysog Charles, a Mirain Haf Roberts yn dysgu Josh O'Connor - yr actor sy'n chwarae Charles - sut i ynganu'r geiriau Cymraeg.
Mae'n debyg iddi wneud hynny cystal nes bod ei Gymraeg yn well na Chymraeg Charles, yn ôl y sôn.
Ond a fydd pryderon rhai nad yw'r gyfres yn rhoi'r darlun llawn o'r teimladau cymysg am yr Arwisgo a'r gwrthwynebiad chwyrn ymysg rhai Cymru, yn cael eu gwireddu?
Mae Gwyn yn credu y bydd yn dod â'r drafodaeth am hunaniaeth Cymru i sylw cynulleidfa enfawr dros y byd.
"Mae'r bennod yn ymdrin â hunaniaeth a Chymru a'n perthynas ni â'r Deyrnas Unedig. Fel yn '69 rydan ni ynghanol cyfnod gwleidyddol pwysig a dadlennol iawn i'n dyfodol ni fel gwlad ar hyn o bryd," meddai.
"Gydag ansicrwydd Brexit a'r awydd am annibyniaeth yng Nghymru a'r Alban mae sgyrsiau yn y ddrama'n teimlo'n berthnasol iawn o hyd.
"Felly dwi'n meddwl ei bod yn bwysig iawn fod y sgwrs am safle Cymru yn dod yn rhan flaenllaw o adloniant boblogaidd, a hynny i filiynau lawer o wylwyr o gwmpas y byd, am y tro cyntaf i 99% o'r gwylwyr hynny.
"All lledaenu y sgwrs am rôl Cymru o fewn y Deyrnas Unedig i glustiau newydd ond bod yn beth da.
"Roedd yn gyfnod mor ddyrys i Gymru a theimladau a gweithredoedd y Cymry mor gryf o blaid ac yn erbyn yr arwisgiad.
"Beth bynnag eich barn am rôl tywysogaeth yng Nghymru mae effaith yr Arwisgiad wedi llunio cymaint arnom ni a'n meddylfryd ni dros yr hanner canrif ddwethaf. Felly dwi teimlo fod o'n bwysig iawn fod y bennod yma wedi chreu.
"Fel dylunydd a rhywun sy'n gweithio yng nghyfryngau Cymru dwi'n falch iawn fod cyfres fel The Crown yn dod i ffilmio yma - mae'n ffordd o ddod ag arian yn uniongyrchol i ardal ond hefyd yn hyrwyddo ein gwlad yn ehangach."
Mae'n galonogol meddai Gwyn fod cynhyrchiadau mawr yn dod i Gymru a'r Llywodraeth yn gwneud ymdrech i'w denu yma ond mae'n gobeithio nad yw hynny'n digwydd ar draul ein cyfryngau Cymraeg a Chymreig cynhenid.
"Mae'n hollol hanfodol bod cyfryngau Cymraeg yn cael eu noddi er mwyn galluogi i barhau'n berthnasol yn yr un byd â'r cynhyrchiadau gwerth degau o filiynau yma," meddai.
Hefyd o ddiddordeb: