Codi pris parcio ym Mhorthmadog ond nid yn y Greigddu

  • Cyhoeddwyd
Traeth y Greigddu
Disgrifiad o’r llun,

Mae traeth y Greigddu'n dawel ar hyn o bryd, ond mae cymaint a 1,000 o geir yn heidio yma'n ddyddiol yn yr haf

Mae Cyngor Tref Porthmadog yn dweud eu bod yn siomedig ar ôl i gynllun fyddai wedi dod â £15,000 i'w goffrau gael ei wrthod gan Gyngor Gwynedd.

Ar hyn o bryd mae'n costio £5 i barcio car ar draeth y Greigddu, ym Morfa Bychan, ond gobaith y cyngor tref oedd cael cynyddu'r pris o 10% (50c), a bod yr arian ychwanegol yn mynd i goffrau'r cyngor tref.

Mae'r traeth yn hynod boblogaidd, ac yn ystod misoedd yr haf mae'n bosib cael dros 1,000 o geir yn parcio yno.

Problemau traffig

Dywedodd Gwilym Jones, cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog, wrth Cymru Fyw bod y traffig ychwanegol yn achosi problemau ym Mhorthmadog a Morfa Bychan.

"Mae traeth y Greigddu yn lle poblogaidd ofnadwy ac wrth gwrs, yn sgil hynny 'dan ni'n cael lot o draffig yn mynd trwy'r pentref [Morfa Bychan] a drwy'r dref [Porthmadog]. Mae'r dref yn dioddef oherwydd y traffig a mae 'na resymau da i roi canran o'r pres i'r dref," meddai.

Galwodd ar Gyngor Gwynedd i ailfeddwl.

Ffynhonnell y llun, Empics
Disgrifiad o’r llun,

Cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog, Gwilym Jones

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae Cyngor Gwynedd wedi cytuno i godi 10% ychwanegol ar feysydd parcio ym Mhorthmadog, a bod yr incwm ychwanegol o'r 10% yn cael ei drosglwyddo i Gyngor Tref Porthmadog er mwyn ei fuddsoddi yn yr ardal.

"Mae Cyngor Gwynedd hefyd yn gyfrifol am reoli traeth y Greigddu ym Morfa Bychan, ac yn codi ffi mynediad i gerbydau ar y traeth.

"Nid yw'r cyngor mewn sefyllfa ar hyn o bryd i fabwysiadu cynllun tebyg, oherwydd bod gwaith pellach i adolygu trefniadau codi a chasglu incwm i'r dyfodol.

"Mae nodweddion a swyddogaethau rheoli traeth y Greigddu yn wahanol i faes parcio ac nid yw trefniadau yn gyson gyda strwythur ffïoedd parcio arferol, a byddai angen ystyried unrhyw oblygiadau ariannol.

"Serch hynny, byddwn yn barod i gynnal trafodaethau pellach gyda'r cyngor tref maes o law."