Trigolion yn trafod trafferthion traffig Ynys Llanddwyn

  • Cyhoeddwyd
llanddwynFfynhonnell y llun, Loop Images
Disgrifiad o’r llun,

Ynys Llanddwyn - man sy'n cael ei gysylltu â chwedl Dwynwen

Mae trigolion a busnesau yn Niwbwrch ar Ynys Môn yn pryderu am broblemau traffig wrth i ymwelwyr heidio i Ynys Llanddwyn.

Mae degau o filoedd o bobl yn ymweld â Llanddwyn bob blwyddyn - ond dim ond un lôn gul sy'n mynd lawr i'r traeth a'r maes parcio o'r pentref.

Ar drothwy tymor gwyliau prysur arall, mae yna gwyno am y traffig drwy'r pentref - gyda busnesau lleol yn anhapus, a phryderon am ddiogelwch.

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn y pentref nos Fercher i drafod y sefyllfa, gyda thua 80 o bobl yno i leisio'u barn.

'Cau'r maes parcio'

Dywedodd y Cynghorydd Timothy Owen, Cadeirydd Cyngor Plwyf Bro Rhosyr: "Dros y blynyddoedd diwethaf mae'n debyg bod petha' wedi gwaethygu.

"Pan mae petha' ar eu gwaethaf ma' petha'n gallu cloi yn arw [yn Niwbwrch] ac ma' hynny'n achosi pryder mawr i berchnogion busnes lleol."

Disgrifiad o’r llun,

Timothy Owen ydy cadeirydd y cyngor plwyf lleol

Mae ofnau y gallai pethau brysuro fwy fyth wrth i raglen The 1900 Island - sydd wedi'i ffilmio ar Ynys Llanddwyn - gael ei darlledu ar y BBC.

Dywedodd Dylan Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC), y corff sy'n gyfrifol am reoli'r safle: "'Da ni'n llwyr gydymdeimlo 'efo pryderon pobl leol am y broblem traffig ac mi fyddwn ni'n gweithio 'efo asiantaethau eraill i drio cael cynllun tymor hir i ateb y broblem yma.

"Wrth gwrs ma' traffig ym mhentrefi lan môr yn broblem ym misoedd yr haf, yn enwedig pan mae'r ysgolion ar gau, a 'dan ni wedi gorfod cau'r maes parcio yma o leia' chwech o weithiau'r flwyddyn ddiwetha'."

Fe gadarnhaodd CNC yn y cyfarfod nos Fercher y byddan nhw'n cynnal ymgynghoriad ffurfiol dros yr haf ar unrhyw gynlluniau posib i leddfu'r problemau traffig a pharcio, ac na fyddan nhw'n gweithredu ar unrhyw beth heb drafod gyda thrigolion lleol.

Ffynhonnell y llun, Alison Hopper
Ffynhonnell y llun, Alison Hopper
Disgrifiad o’r llun,

Ar yr adegau prysuraf, mae yna oedi o ryw hanner awr drwy bentref Niwbwrch

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn fod y cyngor yn cydweithio gyda chyrff eraill "er mwyn darganfod datrysiad effeithiol sydd yn gweithio i'r pentref, y safle, a defnyddwyr".

"Fel cyngor, rydym yn cydnabod Coedwig Niwbwrch a Gwarchodfa Natur Ynys Llanddwyn fel safle hollol unigryw, ac yn ymwybodol o bwysigrwydd y tirwedd o bersbectif amgylcheddol, hamdden ac ymwelwyr. Mae'r safle'n cyfrannu at yr economi a llesiant.

"Fodd bynnag, mae gennym hefyd gyfrifoldeb i sicrhau nad yw'r gymuned leol yn dioddef o ganlyniad i lefelau traffig gormodol.

"Mae poblogrwydd y safle bellach yn rhoi baich mawr ar y rhwydwaith ffyrdd ac yn peri poendod i drigolion pentref Niwbwrch."

Mae'r trafodaethau rhwng y gwahanol asiantaethau yn parhau a bydd cyfarfod cyhoeddus arall yn cael ei gynnal yn Niwbwrch yn yr wythnosau nesaf.