Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol ger Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Safle'r ddamwain
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth all helpu'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiad

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ger Aberystwyth nos Sadwrn.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Vauxhall du ac Audi arian tua 22:00 ar ffordd yr A487 yng Nghommins Coch.

Bu farw dynes 18 oed a oedd yn teithio yn y car Vauxhall Astra o'i hanafiadau - roedd y car yn teithio i gyfeiriad Bow Street.

Cafodd sawl person arall eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mae'r llu'n gofyn i unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y ffordd o gwmpas yr un amser ac sydd â deunydd fideo allai fod o gymorth i'w hymchwiliad i gysylltu gyda'r Uned Wrthdrawiadau Difrifol.