Ymgeisydd dan y lach am sylwadau ar grŵp Facebook dadleuol
- Cyhoeddwyd
Mae ymgeisydd etholiadol Llafur Cymru yn wynebu cyhuddiad ei bod yn rhan o grŵp Facebook dadleuol llai na mis yn ôl.
Mae'r grŵp dan sylw yn cynnig cymorth i aelodau'r blaid sy'n wynebu ymchwiliad o wrth-Semitiaeth, yn ogystal â materion disgyblu eraill.
Dywedodd Maria Carroll ei bod wedi gadael wedi i'r grŵp gymryd "cyfeiriad gwrth-Semitiaeth cynllwyngar".
Ond mae lluniau'n awgrymu ei bod yn rhoi sylwadau ar dudalen y grŵp ym mis Hydref.
Mynnodd Ms Carroll ei bod "wedi bod yn feirniad di-flewyn-ar-dafod o wrth-Semitiaeth yn ein plaid".
Mae aelodau blaenllaw o fewn Llafur Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw'n pryderu nad yw'r blaid yn y DU yn ymchwilio i'w rôl yn y grŵp.
Ms Carroll sy'n sefyll ar ran y Blaid Lafur yn sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn yr etholiad cyffredinol.
Honnir i'r grŵp Facebook, oedd ond yn weladwy i'w aelodau, gael ei sefydlu er mwyn rhoi cyngor i aelodau Llafur ar sut i amddiffyn eu hunain wrth iddyn nhw wynebu ymchwiliad disgyblu mewnol.
Ddydd Sul, dywedodd Ms Carroll ei bod wedi ymuno "ar adeg pan oedd nifer o aelodau asgell chwith yn cael eu gwahardd o'r blaid... er mwyn eu hatal rhag pleidleisio yn yr etholiad am arweinyddiaeth y blaid yn 2016".
"Pan ddechreuodd y cynllwynio gwrth-Semitaidd fe wnes i adael y grŵp," meddai.
Ond mae lluniau'n awgrymu ei bod yn parhau i gyfrannu sylwadau i'r grŵp ar 23 Hydref eleni - yn cynnig cyngor i aelodau a oedd yn dweud eu bod wedi eu gwahardd.
'Methu coelio'r peth'
Daeth Llafur Cymru i wybod am yr honiadau yn erbyn Maria Carroll ar ôl i'r Mail on Sunday ddod â'r peth i'w sylw nos Wener.
Dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford, ei fod wedi cyfeirio'r mater ynghylch Ms Carroll at Uned Gyfreithiol a Llywodraethiant y Blaid Lafur Brydeinig er mwyn iddyn nhw ymchwilio.
Ond fe ddywedodd Llafur wrth BBC Cymru na fyddan nhw'n ymchwilio i Ms Carroll am na wnaeth hi unrhyw sylwadau gwrth-Semitaidd ei hun.
Dywed Maria Carroll nad yw hi wedi gweld unrhyw negeseuon cyfryngau cymdeithasol dan sylw.
Dywedodd ffynhonnell o fewn y blaid yn ganolog nad oedden nhw wedi derbyn cwynion am Ms Carroll.
Ond fe ddywedodd un ffynhonnell flaenllaw o fewn Llafur Cymru: "Wnes i gymryd yn ganiataol y byddai rhywun yn camu i mewn ac yn gwneud rhywbeth ar ôl i Mark Drakeford wneud y datganiad yna.
"Doeddwn i methu coelio'r peth pan ddywedodd Llafur y DU nad oedd cwyn ac na fyddwn ni'n ymchwilio."
Mewn datganiad nad oedd yn cyfeirio at pryd adawodd Ms Carroll y grŵp, dywedodd ffynhonnell y Blaid Lafur: "Fe wnaethon ni ymchwilio i'r grŵp Facebook yn ei gyfanrwydd o'r blaen.
"Ni wnaethon ni ganfod unrhyw sylwadau gwrth-Semitaidd gan Maria Carroll nac unrhyw sylwadau ganddi a fyddai'n torri rheolau'r blaid.
"Fe wnaethon ni ddod o hyd i sylwadau gan aelodau eraill o'r grŵp ac arweiniodd at waharddiadau cyflym."
Gwadu'r Holocost
Fe honnir fod cyn ymgeisydd Llafur mewn etholiad i Gyngor Peterborough, Alan Bull, yn aelod o'r grŵp Facebook caeëdig.
Fe dynnodd ei enw nôl fel ymgeisydd ar ôl cydnabod ei fod yn "gamgymeriad drwg" rhannu erthygl ar Facebook yn 2015 oedd yn ymddangos fel pe bai'n awgrymu mai twyll oedd yr Holocost.
Dywedodd Ms Carroll nad oedd wedi gweld y "neges frawychus ar gyfryngau cymdeithasol" gan Alan Bull gan "na chafodd y negeseuon eu rhoi yn y grŵp" yr oedd hi ynddo.
Ychwanegodd: "Rwyf wedi bod yn feirniad di-flewyn-ar-dafod o wrth-Semitiaeth yn ein plaid, gan gynnwys beirniadu cam-drin gwrth-Semitaidd yn erbyn [cyn AS Llafur] Luciana Berger o fewn i'n plaid.
"Rwyf wedi cael fy eithrio gan gyfrifon gwrth-Semitaidd o ganlyniad."
Yr ymgeiswyr etholiadol eraill sy'n sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yw: Jonathan Edwards ar gyfer Plaid Cymru, Havard Hughes dros y Ceidwadwyr a Peter Prosser dros Blaid Brexit.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2019