Cwrdd â'r Hwngariaid Cymreig
- Cyhoeddwyd
Ar nos Fawrth 19 Tachwedd mae Cymru'n chwarae mewn gêm dyngedfennol yn erbyn Hwngari yn eu hymgais i gyrraedd pencampwriaethau Euro 2020.
Bydd yr enillydd yn cyrraedd y rowndiau terfynol, gyda'r tîm sy'n colli'n mynd i'r gemau ail-gyfle.
Ond pwy yw'r Hwngariaid sy'n byw yng Nghymru? Ble maent yn byw ac faint sydd yma?
'Da ni'n caru Caernarfon'
Un teulu sydd â thocynnau ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd yw teulu Boglárka Tunde Incze, fydd yno gyda'i gŵr Levente, a'i phlant Zsófia a Botond.
Maent yn byw yng Nghaernarfon, ond yn wreiddiol o Transylvania, sy'n ardal o Rwmania bellach ond fu'n arfer bod yn rhan o ymerodraeth Hwngari, felly mae yna boblogaeth enfawr o Hwngariaid yno.
"Fe symudon ni i Gymru gyntaf yn 2015," meddai Boglárka. "Da ni'n caru Caernarfon, allai ddim meddwl am symud eto. Mae'n hardd yma, a da ni wrth y môr ac wrth y mynyddoedd hefyd - sy'n grêt i'r gŵr sy'n hoff o redeg marathonau! Mae 'na deulu arall yng Nghaernarfon o Hwngari, ac mae 'na bobl o lawer o wahanol wledydd yn y dref."
Mae Boglárka wedi trochi ei hun yn niwylliant Cymru: "Dwi'n mwynhau dysgu am ddiwylliant Cymru a dyna pam dwi bellach yn gwneud cwrs dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Mae fy merch Zsófia, sy'n wyth oed, yn chwarae i Glwb Pêl-droed Merched Ieuenctid Tref Caernarfon, ac mae fy mab Botond, sy'n saith oed, yn chwarae dros Segontium Rovers."
"Dwi'n gweithio yn gofalu am yr henoed yn eu cartref felly dwi'n cael siawns i ymarfer fy Nghymraeg fel 'na."
Oes rhywfaint o Hwngariaid eraill yng ngogledd Cymru? "Dwi'n gwybod am ambell rai yn y gogledd," meddai Levente, "ond mae lot mwy yn ardal Caerdydd."
Mae'r Hwngariaid yn bobl sydd yn dueddol o deithio dramor, fel esboniai Levente: "Mae Hwngari'n wlad o 10 miliwn o bobl, ond mae dros 2.5 miliwn eraill o Hwngariaid yn byw tu allan i'r wlad, gyda rhyw 1.5 miliwn yn byw yn ardal Transylvania yn Rwmania."
'Gadael wedi methiant y chwyldro'
Balint Brunner yw golygydd y dudalen wybodaeth 'Magyar Cymru', sy'n trafod y cysylltiadau rhwng Cymru a Hwngari heddiw a hanes y gymdeithas Hwngaraidd yng Nghymru.
"Daeth llawer o Hwngariaid i Gymru wedi methiant y chwyldro yno yn 1956 - gadawodd 200,000 o Hwngariaid y wlad. Ond fe setlodd rhai yng Nghymru yng nghynt, fel Terry Farago, a oroesodd Auschwitz i ail-adeiladu ei bywyd yng Nghaerdydd wedi'r rhyfel.
"Yn fwy diweddar, mae llawer o Hwngariaid wedi setlo yng Nghymru i weithio, gyda llawer yn cofleidio'r diwylliant a dysgu Cymraeg. Mae 'na ddoctoriaid, peirianwyr, arbenigwyr IT a myfyrwyr wedi setlo yng Nghymru yn ddiweddar.
"Yn 2015 roedd 'na tua 2,000 o bobl cafodd eu geni yn Hwngari yn byw yng Nghymru, ond efallai bod mwy o Hwngariaid cafodd eu geni yn ardal Transylvania yn Rwmania a Slovakia, sydd ddim efo pasbort Hwngaraidd. Ond mae 'na lot mwy o Hwngariaid ail genhedlaeth yng Nghymru - plant i bobl ddaeth draw wedi 1956.
"Fel y disgwylir, yn ninasoedd y de mae'r mwyafrif o Hwngariaid (Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe), ond peidiwch â synnu clywed yr iaith yng Nghaerfyrddin, Llandudno, Caernarfon neu Aberystwyth!"
Fel esbonia Balint mae'r gymuned Hwngaraidd yng Nghymru yn ymgynnull o dro i dro:
"Mae llawer o deuluoedd Hwngaraidd, enwedig rhai efo plant ifanc, yn teimlo ei bod yn bwysig i gadw'r traddodiadau'n fyw - ynghyd â'r iaith, cerddoriaeth a dawnsio gwerin. Ond i Gymry o dras Hwngaraidd, mae'r un mor bwysig i ddangos gwerthfawrogiad i'r wlad sydd wedi eu croesawu nhw.
"Mae'r gantores glasurol Elizabeth Sillo wedi bod yn un o'r rhai amlycaf i bontio diwylliannau Cymru a Hwngari - meddai hi, 'Mae pobl Cymru a Hwngari yn anrhydeddu eu traddodiadau gyda'r un angerdd ac ymroddiad'.
Mae teuluoedd Hwngaraidd a Chymreig yn dod at ei gilydd bob blwyddyn yng Nghaerdydd i adeiladu pontydd rhwng y ddwy wlad gyda dathliad o 'bopeth Cymraeg a Hwngaraidd'.
Bob blwyddyn yn Neuadd Urdd Canolfan y Mileniwm mae cyngerdd a digwyddiad dawns werin, bydd y pedwerydd digwyddiad yn cael ei chynnal ar 14 Mawrth, 2020 i gyd-fynd â Dydd Gŵyl Dewi ac un o wyliau cenedlaethol Hwngari.
Mae'r digwyddiad yn cael ei threfnu gan gymunedau Hwngari De Cymru ac Ysgol Ffidil Kodály yn Sir Gaerfyrddin, dan gyfarwyddyd Dorothy Singh.
"Gyda gymaint o ddigwyddiadau Cymreig-Hwngaraidd yn cael eu cynnal yn y ddwy wlad, da ni'n falch iawn i alw'r ddwy wlad yn gartref," meddai Balint. "Gwrthwynebwyr ar y cae pêl-droed, ond ffrindiau mewn ysbryd."
'Cenhedlaeth aur' Hwngari
O'r 1940au i'r 1960au roedd Hwngari yn un o'r timau pêl-droed gorau yn y byd, gydag un o'r goreuon i chwarae'r gêm, Ferenc Puskás, yn arwain yr y tîm.
"Rydyn ni'n gwella, ond dim ond un 'cenhedlaeth aur' oedd yn anffodus! Mi ddechreuon ni ar ein taith i brif lwyfan pêl-droed y byd yn Ffrainc yn ystod Euro 2016, a dwi'n gobeithio bod y Puskás nesa' allan 'na yn cicio pêl ar gae yn rhywle!"
Disgwyl ennill yng Nghaerdydd?
Mae Tamás Kascsák yn gefnogwr brwd o dîm cenedlaethol Hwngari ac yn teithio i Gaerdydd o dref Diósgyőr yn Hwngari ar gyfer y gêm hollbwysig.
"Mae 'na ddisgwyliad," meddai Tamás "ond i Hwngari dwi'n meddwl bod cyrraedd Euro 2020 yn gyfle unwaith mewn bywyd i'r chwaraewyr a'r wlad."
Mae Hwngari yn un o'r 12 gwlad fydd yn llwyfannu Euro 2020, gyda Budapest yn cynnal gemau yng Ngrŵp F a gêm rownd yr 16 olaf.
Dywed Tamás: "Bydd y cefnogwyr Hwngaraidd yn cynrychioli'r holl genedl a'u cydwladwyr mewn gwledydd eraill, a dwi'n gobeithio bydd y tîm yn barod i chwarae dros y Magyars (Hwngariaid) Mehefin nesa gartref yn Euro 2020."
"Dwi'n disgwyl gweld Hwngari yn sgorio un gôl yn fwy na Chymru - a dwi'n gobeithio gall ein sêr, Szalai a Szoboszlai, wneud y gwahaniaeth!
"Ond fe roedd Cymru yn y rownd gynderfynol yn yr Euros diwethaf, felly allwn ni ddim eu diystyru nhw. Maen nhw'n cael eu gweld fel 'tîm un dyn' gan lawer, felly fe fydd Joe Allen yn dychwelyd nôl i'r tîm ar gyfer gêm Hwngari yn hwb allweddol i'w llwyddiant."
Mae Levente sy'n byw yng Nghaernarfon hefyd yn meddwl mai un gôl fydd ynddi: "Bydd hi'n gêm agos, gan obeithio bydd un o'r timau yn ennill - bydd gêm gyfartal yn golygu y byddai Slovakia'n debygol o orffen yn ail. Dwi'n meddwl mai 2-1 i Hwngari bydd hi."
Hefyd o ddiddordeb: