Etholiad 2019: Plaid Cymru'n addo 1,600 heddwas ychwanegol

  • Cyhoeddwyd
Heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru yn addo dau swyddog ychwanegol i bob cymuned yng Nghymru

Mae Plaid Cymru yn addo cryfhau'r heddlu yng Nghymru trwy ddatganoli'r pwerau am gyfiawnder troseddol i Fae Caerdydd.

Dywedodd Liz Saville Roberts, sy'n ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol, y byddai'r blaid yn gwario £50m ar 1,600 o swyddogion ychwanegol.

Hefyd, mae'r blaid yn addo gwahardd technoleg adnabod wynebau, gan eu bod yn credu bod y datblygiad yn "wallus iawn".

Ar hyn o bryd Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am blismona ac mae Cymru yn rhan o'r un gyfundrefn gyfiawnder troseddol â Lloegr.

Er mwyn gwireddu eu haddewid fe fyddai'n rhaid i'r blaid hefyd ffurfio, neu fod yn rhan, o Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru hefyd yn cefnogi datganoli cyfiawnder.

'Ariannu annheg'

Yn 2010 roedd 6,375 o blismyn yng Nghymru, ond erbyn mis Mawrth 2019 roedd y nifer wedi gostwng i 5,906.

O dan gynlluniau presennol y Swyddfa Gartref fe fydd yna 302 o blismyn ychwanegol yn cael eu recriwtio yng Nghymru erbyn diwedd Mawrth 2021.

Yn gynharach eleni daeth comisiwn annibynnol i'r casgliad y dylai Cymru gael rheolaeth lawn ar y system gyfiawnder, gyda phwerau i ofalu am blismona, carchardai a phenodi barnwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz Saville Roberts yn credu bod y dull prsennol o ariannu plismona yng Nghymru yn "annheg"

Dywedodd Ms Saville Roberts ei bod hi'n annerbyniol mai Cymru ydy'r unig genedl yn y DU heb bwerau o'r fath.

"Mae lluoedd Cymru wedi cael eu taro yn galetach na'r rhai yng ngweddill y DU oherwydd fformiwla ariannu annheg," meddai.

Ychwanegodd y byddai Plaid Cymru yn creu gwasanethau o gwmpas pobl yn hytrach na'r system bresennol sy'n "blaenoriaethu targedau ar draul lles pobl".

Mae Plaid Cymru yn honni y byddai heddluoedd Cymru yn debygol o gael £25m yn ychwanegol gan Lywodraeth y DU petai'r gyfundrefn blismona yn cael ei datganoli.

Fe fyddai'r arian ychwanegol, yn ôl y blaid, yn dod trwy fformiwla Barnett - y dull o ariannu gwasanethau sydd wedi eu datganoli i Gymru.

Mae'r broses ariannu yma yn wahanol iawn i'r dull sy'n cael ei ddefnyddio i'r drefn bresennol o ariannu plismona.

Mae'r blaid yn addo ychwanegu £25m arall at y swm hwnnw.

Mae'r blaid hefyd yn dweud y bydden nhw hefyd yn diddymu Deddf Gardota 1824 er mwyn sicrhau bod digartrefedd yn cael ei drin fel fel problem gymdeithasol yn hytrach na throsedd.