Cwpan FA Lloegr: Rochdale 1-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam allan o gystadleuaeth Cwpan FA Lloegr ar ôl colli gêm ailchwarae yn y rownd gyntaf i Rochdale, er iddyn nhw ymdrechu'n galed yn yr ail hanner i daro'n ôl.

Fe sgoriodd Paul McShane unig gôl y gêm gyda pheniad nerthol wedi wyth munud o chwarae i roi'r fantais i'r tîm cartref.

Roedd Wrecsam heb Mark Harris, oedd yn rhan o dîm dan-21 Cymru a gurodd Bosnia nos Fawrth, ac Adam Barton, sydd wedi cael llawdriniaeth i'w ben-glin.

Roedd y gêm gyntaf rhwng y ddau dîm ar y Cae Ras yn ddi-sgôr.

Bydd Rochdale nawr yn wynebu Boston United yn yr ail rownd.