Achos claf o Gymru'n amlygu camgymeriad gan lawfeddyg
- Cyhoeddwyd
Mae ymddiriedolaeth iechyd yn Rhydychen wedi cytuno i dalu dros £215,000 mewn iawndal i glaf 25 oed o dde Cymru, wnaeth dderbyn aren heintiedig yn sgil camgymeriad llawfeddyg wrth dynnu organau rhoddwr.
Pryder meddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd dros gyflwr y claf yn dilyn y trawsblaniad arweiniodd at amlygu methiant y llawfeddyg i ddatgelu toriad damweiniol i stumog y rhoddwr gan achosi i rywfaint o gynnwys y stumog ollwng.
Bu farw claf arall ar ôl cael ei heintio wedi trawsblaniad afu, a bu'n rhaid i'r claf o Gymru gael llawdriniaeth frys i dynnu'r aren heintiedig ar ôl mynd yn ddifrifol wael.
Fe wnaeth y claf - rhiant sy'n dymuno aros yn ddienw - ddwyn achos yn erbyn Ymddiriedolaeth Iechyd GIG Ysbytai Prifysgol Rhydychen, lle mae'r llawfeddyg yn dal i weithio.
Daeth y camgymeriad i'r amlwg wedi i'r claf dan ofal Ysbyty Athrofaol Cymru gael poenau difrifol a gwaedu'n fewnol wedi'r trawsblaniad.
Rhoddwyd y claf mewn coma am gyfnod ac roedd angen 16 o drallwysiadau gwaed.
Bu'n rhaid i'r claf hefyd fod ar ddialysis am dros flwyddyn, a hynny am y tro cyntaf erioed.
Cysylltodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro â'r Awdurdod Meinwe Ddynol (HTA) a Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r achos.
Torri dyletswydd gofal
Mae ymchwiliad "digwyddiad difrifol" Adran Gwaed a Thrawsblaniadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn nodi bod y llawfeddyg "yn cofio dim byd nodedig" am y driniaeth wreiddiol i gasglu organau'r rhoddwr yn Ebrill 2015.
Cyfaddefodd, "o edrych yn ôl", bod "toriad bach" i'r stumog yn ystod y broses wedi achosi gollyngiad "bychan" o gynnwys y stumog.
Chafodd yr achos mo'i gofnodi, ac fe gafodd dri chlaf organau wedi'u heintio, yn ddiarwybod iddyn nhw a'u meddygon.
Mae'r ymddiriedolaeth yn cydnabod bod hynny wedi torri'r ddyletswydd gofal, er i'w cyfreithwyr ddadlau y byddai'r risg i gleifion wedi bod yn isel.
'Effaith anferthol ar fy mywyd'
Mae'r claf o Gymru'n dal i gael problemau iechyd o ganlyniad i'r camgymeriad, gan gynnwys niwed nerfol wedi'r driniaeth i dynnu'r aren heintiedig, poenau yn y traed a'r coesau a phwysedd gwaed uchel.
"Yr hyn sy'n fy ngwylltio hyd heddiw yw'r ffaith fod y llawfeddyg a dynnodd organau'r rhoddwr heb fod yn onest," meddai.
"Dim ond pan wnaeth pobl a dderbyniodd yr organau ddechrau fynd yn sâl y cafodd y gwir ei ddatgelu.
"Mae wedi cael effaith anferthol ar fy mywyd. Roedd fy mhlant yn ifanc iawn ar y pryd a phrin welson nhw fi tra ro'n i'n wael."
Mae'r ymddiriedolaeth wedi ymddiheuro i'r claf, gan ddweud bod yr amgylchiadau'n rhai "anarferol iawn" a'u bod "yn awyddus i sicrhau ein bod yn gwneud popeth posib fel bod hyn ddim yn digwydd eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2019
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2019