'Fferm drefol' all gynnig 'ffordd newydd radical o fyw'
- Cyhoeddwyd
Fe allai safle hen siop Woolworths yn Abertawe gael ei ddatblygu mewn ffordd sy'n galluogi trigolion i dyfu llysiau mewn tai gwydr fertigol.
Mae'r cais cynllunio ar gyfer y safle yn Stryd Rhydychen hefyd yn cynnwys gosod tanciau pysgod yn yr islawr, a'r potensial i gynhyrchu mêl ar do'r adeilad.
Dywedodd cwmni datblygu Hacer bod cynllun Picton Yard, fydd yn cynnwys cartrefi, siopau a swyddfeydd, "yn unigryw ymhob ffordd", gan gynnig "ffordd newydd radical o fyw" mewn amgylchedd trefol.
Maen nhw'n gobeithio dechrau ar y gwaith adeiladu fis Ebrill nesaf - gwaith all gymryd 18 mis i'w gwblhau.
Sail y cynllun yw'r syniad o "fywyd bioffilig" sy'n helpu pobl i "ailgysylltu â natur" yng nghanol dinasoedd a threfi.
Byddai'n galluogi trigolion i helpu rhedeg fferm drefol fel menter gymunedol, gan ddefnyddio a gwerthu'r cynnyrch.
Y gobaith yw y bydd yn llesol i unigolion a'r gymuned yn y tymor hir, gan leddfu problemau cymdeithasol fel unigrwydd.
Dywedodd Marta Lopez o gwmni penseiri Powell Dobson eu bod eisiau "creu templed... sy'n ein hannog i ailystyried ein ffordd o fyw mewn dinasoedd".
"Bywyd bioffilig yw ein hymateb i ddau fater cyfredol a phwysig iawn: yr argyfwng hinsawdd byd-eang sy'n ein hwynebu a'r twf cyflym yn y boblogaeth drefol," meddai.
"Rydym ni'n credu na allwn ni barhau i ddylunio adeiladau yn ôl yr arfer."
'Waliau byw'
Bydd yr hen siop Woolworths, sydd bellach yn siop Poundland, yn aros yn ei le, a bydd rhannau ychwanegol y datblygiad yn cael eu codi uwch ben a thu ôl yr adeilad.
Fe fydd rhan dalaf y datblygiad yn 12 llawr o uchder.
Byddai gardd ar y to, "waliau byw" a mannau plannu ar gyfer pob un o'r 42 o fflatiau.
Byddai'r datblygiad hefyd yn cynnwys ymbarelau sy'n casglu dŵr glaw ar gyfer toiledau ac i ddyfrio llysiau a phlanhigion.
Fe fyddai'r trigolion yn cael cyngor arbenigwyr ar holl brosesau cynnal y tai gwydr pedwar llawr er mwyn rhedeg fferm nid-er-elw gymunedol.
Dywedodd y datblygwyr bod bwriad i werthu rhywfaint o'r cynnyrch mewn siop fferm ar y safle.
Byddai yna hefyd arddangosfeydd i addysgu ymwelwyr am y dechnoleg, a sgrin ddigidol yn dangos faint o drydan sy'n cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio.
Mae'r cynllun wedi cael grant o £4m gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gronfa £30m ar gyfer datblygiadau tai arloesol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2019