Y Bencampwriaeth: Charlton 2-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Neil Harris gyda Lee Bowyer, rheolwr Charlton
Fe darodd Caerdydd yn ôl i sicrhau pwynt oddi cartref yng ngêm gyntaf Neil Harris fel rheolwr ers iddo gael ei benodi'n olynydd i Neil Warnock.
Roedd gofyn am berfformiad llawer gwell yn yr ail hanner nag yn y 45 munud cyntaf ar ôl ildio dwy gôl i Charlton.
Caerdydd gafodd cyfle cynta'r gêm i sgorio wedi i Nathaniel Mendez-Laing wneud yn arbennig i wasgu rhwng dau amddiffynnwr Charlton a chroeso'r bêl i Callum Paterson, ond i'w ymdrech yntau fynd heibio'r gôl.
A doedd Charlton ddim yn haeddu bod ar y blaen pan sgoriodd Conor Gallagher wedi 13 o funudau.
Ond fe fethodd yr Adar Gleision â manteisio ar gyfnod o feddiant da o'r bêl yng nghanol y cae a daeth ail gôl y gwrthwynebwyr, fel y cyntaf, wedi gwrthymosodiad.
Jonathan Leko oedd y sgoriwr gan wneud hi'n 2-0 wedi 42 o funudau.
Roedd yna apêl aflwyddiannus hefyd yn yr hanner cyntaf am gic gosb wedi tacl ar Paterson.

Lee Tomlin yn dathlu sgorio ei ail gôl ers dechrau'r tymor
Fe gafodd Caerdydd gic o'r smotyn dair munud wedi dechrau'r ail hanner - am drosedd yn erbyn Paterson - ond cafodd ergyd Junior Hoilett ei hatal yn hawdd gan y golwr, Dillon Phillips.
Ond doedd dim atal ergyd Mendez-Laing i ddod â'r Adar Gleision yn ôl i'r gêm wedi 52 o funudau i'w gwneud hi'n 2-1.
Roedd y cyfnod dilynol yn llawer mwy cyffrous na'r hanner cyntaf, er bod patrwm y gêm - meddiant i Gaerdydd, Charlton yn gwrthymosod - yn debyg.
Ond yna, chwe munud ar ôl dod i'r cae yn lle Hoilett, fe sgoriodd Lee Tomlin gydag ergyd isel wych y tu mewn i'r postyn i ddod â Chaerdydd yn gyfartal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2019