Protest ger y Senedd yn erbyn llosgyddion gwastraff
- Cyhoeddwyd

Roedd tua 100 o bobl yn y brotest yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn
Mae tua 100 o bobl wedi cymryd rhan mewn protest tu allan i'r Senedd mewn gwrthwynebiad i losgyddion gwastraff.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau bod cymal nesaf profion wedi dechrau mewn llosgydd bio-màs yn Y Barri, ym Mro Morgannwg, sy'n destun pryder i drigolion sy'n poeni ynghylch y posibilrwydd o lygredd aer.
Dywedodd llefarydd CNC y bydd yn parhau i fonitro'r safle yn unol ag amodau ei drwydded amgylcheddol.
Ychwanegodd bod y cymal dan sylw yn cynnwys comisiynu'r tyrbin.
Bydd y safle'n llosgi coed ar dymereddau uchel dan broses nwyo (gasification) i gynhyrchu trydan.

Mae'r protestwyr yn poeni am y posibilrwydd o lygredd aer
Pwysleisiodd James Alderman, aelod o'r grŵp ymgyrchu Residents Against the CF3 Incinerator, mai protestio yn erbyn llosgyddion yn gyffredinol roedden nhw ddydd Sadwrn, nid yn erbyn y safle penodol yn Y Barri.
"Dydyn ni ddim yn gweld bod yna angen am ragor o losgyddion," meddai. "Rydym yn sicr ddim yn teimlo dylid codi llosgyddion o fewn 400 metr i ysgolion.
"Mae'r pethau hyn yn pwmpio'r un ocsidau nitrogen â rhwng pump a saith cilomedr o draffordd. Pam fyddech chi'n gosod hynny ger ysgol?
"Mae angen stopio hyn ac yna mae angen refferendwm ynghylch atal unrhyw losgyddion. Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw hyd a lled y peryglon eto."

Mae'r protestwyr yn dadlau nad oes achos dros ragor o losgyddion
Dywedodd llefarydd CNC bod y cwmni sy'n gyfrifol am y llosgydd yn Y Barri yn darparu gwybodaeth gyson ynghylch y gwaith sy'n mynd rhagddo a'r camau gorfodol i gyfyngu ar lefelau sŵn.
"Bydd ein swyddogion yn monitro'r gweithgarwch yma trwy wiriadau, ymweliadau ac archwiliadau technegol... i sicrhau eu bod yn ateb gofynion llym eu trwydded.
"Rydym yn annog y cwmni i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned ynghylch sut mae'r gwaith yn safle yn mynd rhagddo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2019
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2019